Palestine Action: Chwech wedi’u cyhuddo wedi protestiadau yng Nghaerdydd a dinasoedd eraill
Bydd chwech o bobl yn ymddangos o flaen llys ddydd Iau wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â threfnu protestiadau Palestine Action yng Nghaerdydd, Llundain a Manceinion.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod y cyhuddiadau’n ymwneud â threfnu protestiadau yn y dinasoedd hynny a threfnu 13 cyfarfod Zoom ym misoedd Gorffennaf ac Awst.
Mae’r chwech wedi eu cyhuddo o droseddau dan y Ddeddf Terfysgaeth ac fe fyddwn nhw’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster ddydd Iau.
Dywedodd Frank Ferguson, pennaeth Adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Rydym wedi penderfynu erlyn chwech o unigolion am droseddau o dan y Ddeddf Terfysgaeth.
“Mae’r cyhuddiadau hyn yn ymwneud â chyfarfodydd Zoom a gynhaliwyd rhwng 10 Gorffennaf a 21 Awst 2025 lle honnir bod cynulliadau cyhoeddus wedi’u trefnu i gefnogi Palestine Action, ac annog pobl i fynychu.
“Cynhaliwyd cynulliadau cyhoeddus i gefnogi Palestine Action wedyn yn Llundain, Manceinion a Chaerdydd rhwng 12 Gorffennaf a 9 Awst 2025, yn ogystal â chynulliad a gynlluniwyd ar gyfer 6 Medi yn Llundain.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Adran Gwrthderfysgaeth Heddlu Metropolitan wrth iddynt gynnal eu hymchwiliad a arweiniodd at y cyhuddiadau hyn.”
Y cyhuddedig
Y chwech sydd wedi eu cyhuddo yw:
Timothy Crosland, 55, o Southwark, de-ddwyrain Llundain, sydd wedi’i gyhuddo o dri chyhuddiad o annerch cyfarfod gyda’r bwriad o annog cefnogaeth i sefydliad gwaharddedig a thri chyhuddiad o gynorthwyo i drefnu cyfarfod gan wybod mai ei bwrpas oedd cefnogi sefydliad gwaharddedig.
Patrick Friend, 26, o Grange yng Nghaeredin, sy’n wynebu dau gyhuddiad o reoli cyfarfod i gefnogi sefydliad gwaharddedig ac un cyhuddiad o gynorthwyo i drefnu cyfarfod gan wybod mai’r pwrpas oedd cefnogi sefydliad gwaharddedig.
Gwen Harrison, 48, o Kendal, Cumbria, sydd wedi’i chyhuddo o bedwar cyhuddiad o annerch cyfarfod gyda’r bwriad o annog cefnogaeth i sefydliad gwaharddedig a phedwar cyhuddiad o gynorthwyo i drefnu cyfarfod gan wybod mai’r pwrpas oedd cefnogi sefydliad gwaharddedig.
David Nixon, 39, o Barnsley yn Ne Swydd Efrog, sydd wedi’i gyhuddo o bum cyhuddiad o reoli cyfarfod i gefnogi sefydliad gwaharddedig, un cyhuddiad o annerch cyfarfod gyda’r bwriad o annog cefnogaeth i sefydliad gwaharddedig a phedwar cyhuddiad o gynorthwyo i drefnu cyfarfod gan wybod mai’r pwrpas oedd cefnogi sefydliad gwaharddedig.
Dawn Manners, 61, o Hackney, dwyrain Llundain, sydd wedi’i chyhuddo o dri chyhuddiad o reoli cyfarfod i gefnogi sefydliad gwaharddedig, dau gyhuddiad o annerch cyfarfod gyda’r bwriad o annog cefnogaeth i sefydliad gwaharddedig a dau gyhuddiad o gynorthwyo i drefnu cyfarfod gan wybod mai’r pwrpas oedd cefnogi sefydliad gwaharddedig.
Melanie Griffith, 62, o Southwark, de-ddwyrain Llundain, sy’n wynebu saith cyhuddiad o annerch cyfarfod gyda’r bwriad o annog cefnogaeth i sefydliad gwaharddedig a phedwar cyhuddiad o gynorthwyo i drefnu cyfarfod gan wybod mai’r pwrpas oedd cefnogi sefydliad gwaharddedig.