'Gêm gyffrous': Cymru yn wynebu her hollbwysig yn Kazakhstan
Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi dweud bod ei chwaraewyr yn barod am yr her o chwarae ar gae artiffisial Kazakhstan brynhawn Iau.
Wedi 7,000 o filltiroedd o deithio, mae’r cochion wedi cyrraedd y wlad sydd yn ffinio Ewrop ac Asia, ar gyfer gêm hollbwysig yng ngrŵp rhagbrofol J ar gyfer Cwpan y Byd.
Ar ôl pedair gêm, mae’r Cymry yn yr ail safle y tu ôl i Ogledd Macedonia, gyda saith pwynt.
Mae’r cewri Gwlad Belg yn y trydydd safle, ond maen nhw wedi chwarae dwy gêm yn llai na Chymru.
Fe fydd Cymru yn anelu i ennill pob un o’u pedair gêm sy’n weddill er mwyn ceisio hawlio’r safle ar frig y grŵp a gwobr amhrisiadwy, sef lle yng Nghwpan y Byd 2026.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1963292779787759679
Er iddo gyfaddef na fyddai “wedi gallu” chwarae ar y cae artiffisial fel chwaraewr, mae’n dweud na fyddai’r amodau na’r daith hirfaith wedi effeithio ar ei chwaraewyr.
“Da ni wedi ymarfer ar y cae a ‘da ni’n hapus ‘da fe. Dyw e ddim yn broblem,” meddai mewn cyfweliad gyda Sgorio.
“Ro’n ni’n gwybod bod hyn am ddigwydd, mae angen sicrhau ein bod ni yn y siâp gorau bosib i chwarae’r gêm. Mae’r chwaraewyr wedi paratoi’n dda. Maen nhw’n hynod o broffesiynol, maen nhw’n gwybod be sydd ei angen.
“Mae’n arwyneb gwahanol, ond ni fydd yn broblem yn ystod y gêm. Mae’n gêm gyffrous.”
Anafiadau ac wyneb newydd
Inline Tweet: https://twitter.com/Cymru/status/1963330579870474507
Os am ennill, fe fydd yn rhaid gwneud hynny heb bresenoldeb yr amddiffynwyr dylanwadol, Joe Rodon a Connor Roberts, a’r chwaraewr canol cae, Ethan Ampadu, sydd wedi eu hanafu.
Mae’r ddeuawd o Wrecsam, Danny Ward a Nathan Broadhead, a’r cefnwr ar yr asgell chwith, Jay Dasilva, hefyd wedi eu hanafu.
Mae Bellamy wedi galw golwr Everton, Tom King, amddiffynnwr Queens Park Rangers, Rhys Norrington-Davies, ac am y tro cyntaf, y chwaraewr canol cae Caerdydd, Joel Colwill, i’r garfan yn eu lle.
Fe fydd y gic gyntaf yn y gêm yn Astana am 15.00 ddydd Iau, ac i’w gweld yn fyw ar S4C.