Cymru heb Rodon a Broadhead ar gyfer gêm Kazakhstan
Mae Joe Rodon a Nathan Broadhead ymysg pedwar chwaraewr sydd wedi tynnu allan o garfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Kazakhstan ddydd Iau.
Daeth cadarnhad ddydd Mercher na fyddai’r amddiffynnwr Leeds United na chwaith asgellwr Wrecsam, Broadhead, yn chwarae yn y gêm yn Astana oherwydd anafiadau.
Ni fydd golwr Wrecsam, Danny Ward, yn chwarae ar ôl iddo ddioddef anaf i’w benelin ddydd Sadwrn, na chwaith cefnwr Coventry City ar yr asgell chwith, Jay Dasilva.
Inline Tweet: https://twitter.com/Cymru/status/1963202817847689349
Mae Craig Bellamy wedi galw golwr Everton, Tom King, amddiffynnwr Queens Park Rangers, Rhys Norrington-Davies, a chwaraewr canol cae Caerdydd, Joel Colwill, i’r garfan yn eu lle.
Fe fydd yn rhaid i Gymru ymdopi heb Connor Roberts ac Ethan Ampadu yn ogystal, wrth i’r ddau wella o anafiadau.
Fe fydd y gic gyntaf yn y gêm yn Astana am 15.00 ddydd Iau, ac i’w gweld yn fyw ar S4C.
Prif lun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru