Saith enwebiad Bafta Cymru i Lost Boys and Fairies
Mae enwebiadau gwobrau Bafta Cymru 2025 wedi cael eu cyhoeddi gyda'r gyfres ddrama Lost Boys and Fairies yn derbyn saith enwebiad.
Pump enwebiad gafodd y ddrama Until I Kill You tra bod y gyfres ddrama Gymraeg Cleddau a Mr Burton wedi derbyn pedwar enwebiad.
Yn y categori ysgrifenwyr mae'r tri sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn gwneud hynny am y tro cyntaf- Abi Morgan (Eric), Daf James (Lost Boys and Fairies) a Nick Stevens (Until I Kill You).
Ymhlith unigolion eraill sydd wedi eu henwebu am y tro cyntaf mae'r actores Elen Rhys, yr actor Harry Lawtey a'r cyfarwyddwr Joshua Trigg.
Mae'r rhaglen ddogfen Helmand: Tour of Duty yn derbyn tri enwebiad tra bod dau enwebiad ar gyfer Ar Y Ffin, Brianna: A Mother’s Story, The Golden Cobra, Hunting Mr Nice: The Cannabis Kingpin, Marw gyda Kris a Strictly Amy: Cancer and Me.
Mae'r rhaglen Ar Brawf oedd yn rhoi cip tu ôl i'r llenni ar waith y Gwasanaeth Prawf wedi derbyn enwebiad yn ogystal â rhaglen Sgwrs Dan y Lloer: Noel Thomas.
Ymhlith yr enwebiadau eraill mae Y Llais, Y Byd ar Bedwar: Huw Edwards, Newyddion S4C: Neil Foden, Wales at Six: Women's Euros Special a Legends of Welsh Sport: Liz Johnson.
Bethan Rhys Roberts, Kristoffer Hughes, Amy Dowden a Chris Roberts sydd wedi eu henwebu yn y categori Cyflwynwyr.
Bydd y gwobrau yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd ar y 5ed o Hydref gyda Owain Wyn Evans yn cyflwyno'r seremoni.