O leiaf 1,000 wedi marw wedi tirlithriad medd gwrthrhyfelwyr Sudan
Mae tirlithriad wedi lladd o leiaf 1,000 o bobl yng ngorllewin Sudan yn ôl gwrthrhyfelwyr.
Glaw trwm am ddyddiau sydd wedi achosi'r tirlithriad ddydd Sul ym mynyddoedd anghysbell Marra meddai The Sudan Liberation Movement/Army.
Mae nifer o bobl wedi bod yn llochesi yn yr ardal yma yn y mynyddoedd wedi'r rhyfel cartref yn y wlad.
Dim ond un person sydd wedi goroesi meddai The Sudan Liberation Movement/Army ac mae pentref Tarasin wedi cael ei ddymchwel yn llwyr.
Mae'r rhyfel cartref a ddechreuodd ym mis Ebrill 2023 wedi achosi newyn difrifol a chyhuddiadau o hil-laddiad.
Mae'r mudiad wedi galw am gymorth rhyngwladol dyngarol a chymorth gan y Cenhedloedd Unedig.
Llun: The Sudan Liberation Movement/Army