Pwy mae clybiau Cymru wedi eu harwyddo yn y ffenestr drosglwyddo?
Pwy mae clybiau Cymru wedi eu harwyddo yn y ffenestr drosglwyddo?
Gyda'r ffenestr drosglwyddo pêl-droed bellach wedi cau yn Lloegr ers 19:00 nos Lun, mae hi wedi bod yn haf prysur i glybiau Cymru yn y gynghrair bêl-droed.
Dyma gipolwg ar weithgaredd clybiau pêl-droed Abertawe, Wrecsam, Caerdydd a Chasnewydd yn ffenestr drosglwyddo'r haf.
Abertawe
Fe wnaeth Abertawe sicrhau eu buddugoliaeth oddi cartref gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn ddydd Sadwrn, gan guro Sheffield Wednesday o 2-0.
Llwyddodd yr Elyrch i arwyddo'r ymosodwr Adam Idah o Celtic ar ddiwrnod olaf y ffenestr, am ffi o tua £6m.
Mae Abertawe eisoes wedi arwyddo nifer o chwaraewyr dros yr haf, gan gynnwys Cameron Burgess, Ricardo Santos, Ethan Galbraith, Zeidane Inoussa a Bobby Wales.
Ond mae Joe Allen wedi ymddeol, Harry Darling wedi ymuno â Norwich, ac Ollie Cooper wedi ymuno â Wigan ar fenthyg ymysg eraill sydd wedi gadael.
Wrecsam
Fe enillodd tîm Phil Parkinson eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor yma wrth guro Millwall o 2-0 oddi cartref ddydd Sadwrn.
Daeth cadarnhad ddydd Llun fod Wrecsam wedi arwyddo chwaraewr canol cae Coventry City, Ben Sheaf am ffi o tua £6.5m, sef yr 11eg chwaraewr i'r Dreigiau arwyddo yn y ffenestr drosglwyddo.
Mae Wrecsam eisoes wedi arwyddo Danny Ward, Nathan Broadhead, Kieffer Moore, Lewis O'Brien, Liberato Cacace, Ryan Hardie, George Thomason, Josh Windass, Callum Doyle a Conor Coady.
Nos Lun, fe wnaethon nhw hefyd arwyddo amddiffynnwr Manchester City, Issa Kabore ar fenthyg am weddill y tymor.
Ond mae Paul Mullin wedi ymuno ar fenthyg gyda Wigan am weddill y tymor, yn ogystal ag Ollie Palmer yn ymuno yn barhaol â chlwb Swindon Town.
Caerdydd
Er i'r Adar Gleision ddisgyn o'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf, maen nhw wedi cael dechrau da iawn yn Adran Un hyd yn hyn, gan ennill pum gêm a chael un gêm gyfartal.
Fe wnaeth Clwb Pêl-droed Caerdydd arwyddo chwaraewr canol cae Chelsea, Omari Kellyman ar fenthyg am y tymor ar ddiwrnod olaf y ffenestr ddydd Llun.
Mae Caerdydd eisoes wedi arwyddo'r gôl-geidwad Nathan Trott ar fenthyg gydag opsiwn am gytundeb parhaol, a'r amddiffynnwr Gabriel Osho.
Ond mae Aaron Ramsey wedi gadael y clwb ar ddiwedd y tymor diwethaf, gan ymuno â chlwb Pumas UNAM ym Mecsico, ac mae Dimitrious Goutas, Roko Simic ac Yakou Méïté ymysg yr enwau sydd wedi gadael y clwb dros yr haf hefyd.
Casnewydd
Ar ôl llwyddo i sicrhau pedwar pwynt o'r ddwy gêm agoriadol, mae Casnewydd bellach wedi colli pedair gêm yn olynol yn Adran Dau, gan olygu eu bod nhw bellach yn yr 20fed safle yn y tabl.
Mae'r clwb wedi arwyddo dau gôl-geidwad sef Nik Tzanev a Jordan Wright, yr amddiffynnwr Lee Jenkins, chwaraewr canol cae Cymru Matt Smith a'r ymosodwr Ged Garner.
Nos Lun, fe wnaethon nhw hefyd lwyddo i arwyddo Nathan Opoku a Sammy Braybrooke ar fenthyg o Gaerlŷr tan Ionawr 2026.
Ond mae Shane McLoughlin wedi gadael y clwb, a hynny er gwaethaf cynnig cytundeb newydd, yn ogystal â Nick Townsend a Josh Martin.