Offer cam-drin domestig 'ddim yn gweithio' meddai gweinidog
Mae gan offer sy’n penderfynu pa ddioddefwyr cam-drin domestig sy’n derbyn cymorth brys “broblemau amlwg” meddai gweinidog.
Mae gweinidog y Swyddfa Gartref, Jess Phillips, wedi cyfaddef nad yw holiadur Dash yn gweithio.
Mae’r teclyn 27 cwestiwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn asesu a oes angen gofal arbenigol ar ddioddefwyr camdriniaeth.
Profodd astudiaeth gan academyddion yn 2022 yr holiadur, a daeth i’r casgliad ei fod yn methu ag adnabod y bygythiad oedd dioddefwyr yn ei wynebu.
“Mae’n rhaid i ni wneud y gorau o’r system sydd gennym ni hyd nes y bydda i’n gallu ei ddisodli â rhywbeth sy’n gweithio,” meddai'r gweinidog diogelu a thrais yn erbyn menywod a merched, Jess Phillips.
“Fydd y system raddio ddim yn eich amddiffyn ar unwaith.
“Mae’r systemau sy’n dilyn yr asesiadau risg hynny sy’n llawer, llawer, llawer pwysicach na’r sgôr.”
'Chwalu'
Daw ei sylwadau ar ôl i'r Llywodraeth gyhoeddi y bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â cham-drin “yn seiliedig ar anrhydedd”.
Mae cam-drin yn seiliedig ar anrhydedd yn cael ei ysgogi gan y canfyddiad bod person wedi dod â chywilydd arno'i hun, ei deulu neu'r gymuned.
Mae troseddau cysylltiedig yn cynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod a llofruddiaeth.
Yn 2021, bu farw Fawziyah Javed, 31 oed, a oedd yn feichiog, pan gafodd ei gwthio o Arthur’s Seat yng Nghaeredin gan ei gŵr ar ôl iddi benderfynu gadael y briodas.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper: “Mae pob math o gam-drin ar sail anrhydedd yn droseddau dinistriol a all chwalu bywydau. Nid oes ‘anrhydedd’ yn perthyn iddyn nhw.
“Am gyfnod rhy hir, mae’r troseddau hyn wedi cael eu camddeall gan weithwyr proffesiynol, gan olygu nad ydy ddioddefwyr yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.
“Byddwn yn defnyddio popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod troseddwyr yn wynebu cyfiawnder a bod dioddefwyr yn cael eu hamddiffyn.”