Dyn 49 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam

damwain a525 bwlchgwyn.jpg

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn ymwneud â beic modur ger Wrecsam.

Fe gafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A525 ger Bwlchgwyn, ychydig wedi 10:00 fore Sul.

Unwaith cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y lleoliad, fe gadarnhawyd fod dyn 49 oed wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y farwolaeth, ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae'r crwner hefyd wedi cael gwybod.

Dywedodd y sarjant Duncan Logan o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yr heddlu: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.

"Yn drasig, mae hyn bellach yn cael ei ymchwilio fel gwrthdrawiad angheuol, ac rwy'n apelio at unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â ni.

"Yn fwy na hynny, rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â lluniau camera dashcam o grŵp o 10 o feiciwr modur yn teithio rhwng yr A483 yng Nghoedpoeth a'r A525 ym Mwlchgwyn yn arwain at y gwrthdrawiad i gysylltu â'r heddlu.

"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliadau gysylltu â'r heddlu drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000701685."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.