Cymhwyso fel asiant chwaraeon i 'frwydro dros gytundebau teg i ferched'

kath morgan.jpg

Mae cyn-chwaraewr ac is-hyfforddwr Cymru bellach wedi cymhwyso i fod yn asiant pêl-droed a chriced, a hynny er mwyn "brwydro dros gytundebau teg i ferched".

Kath Morgan oedd y fenyw gyntaf i ennill 50 cap rhyngwladol i Gymru, a hithau bellach ydy asiant pêl-droed benywaidd cyntaf Cymru.

Wedi gyrfa yn chwarae pêl-droed, gan gynnwys i Inter Cardiff (Caerdydd bellach), Y Barri, Bristol Rovers a'r tîm cenedlaethol, mae hi bellach yn sylwebydd pêl-droed ar gemau'r merched a'r dynion ac yn hyfforddwr academi pêl-droed yng Ngoleg y Cymoedd, yn ogystal â'n gyn-athrawes chwaraeon.

"Fi 'di hyfforddi merched ers o'n i'n 16/17 mlwydd oed, so fi wastad wedi bod â diddordeb gweithio gyda pobl ifanc a wedyn dysgais i am dros 20 mlynedd," meddai wrth Newyddion S4C

"Achos bod merched hŷn Cymru, Angharad James, Sophie Ingle, Jess Fishlock, fi wedi bod yn hyfforddi nhw ers oedden nhw yn ifanc iawn a wrth bod nhw yn mynd yn hŷn yn eu gyrfa ryngwladol, ma' wastod linc wedi bod gyda fi, naill ai fi'n chwaraewr, fi fel is-hyfforddwr neu nawr fi'n sylwebu felly ma' wastad linc gyda fi.

"O'n i'n meddwl, os ma' nhw'n ymddeol, fi am golli'r linc yna felly o'n i'n trio meddwl sut alla i aros yn y gêm fel petai."

'Sioc neis'

Roedd yn rhaid i Kath sefyll arholiad FIFA i basio fel asiant, ac fe dreuliodd bedwar mis yn adolygu, o fis Awst i mis Tachwedd y llynedd. 

"Ma'r arholiad yn rili galed, lot o bethau cyfreithiol, felly o'dd e'n rili anodd, o'dd y ddogfen ryw 750 o dudalennau, ac er oedd e'n arholiad llyfr agored, o'dd angen medru ffeindio'r wybodaeth," meddai.

"I fod yn hollol onesd, o'n i byth yn meddwl bydden i yn pasio... er bo' fi wedi cael 50 o gapiau a phasio trwydded UEFA, o ran llwyddiant, dyma falle'r peth fi fwya balch ohono achos o'dd e mor galed so ges i sioc, ond sioc neis."

Image
Kath Morgan
Kath Morgan [ar y chwith] oedd y fenyw gyntaf i ennill 50 cap rhyngwladol i Gymru.

A hithau wedi bod yn flwyddyn brysur i Kath yn ei swyddi presennol yn ogystal â sylwebu ym mhencampwriaeth Euro 2025 dros yr haf, dim ond nawr y mae hi'n troi ei golygon at ei swydd newydd. 

"O'n i ffaelu canolbwyntio yn iawn arno fe, felly o'n i'n trial isde lawr gyda cyfarwyddwr technegol mewn campau gwahnol jyst i gael sgwrs am eu perthynas nhw da'u hasiant, siarad gyda lot o chwaraewyr, menywod a dynion i hel gwybodaeth ar beth i ddisgwyl," meddai. 

Mae Kath bellach yn gweithio yn rhan-amser i asiantaeth chwaraeon Fortis Sports Group, gyda chyn-chwaraewr Cymru Joe Ledley hefyd yn gweithio i'r cwmni.

"Y bwriad yw fi a Joe Ledley yn dechrau o'r cychwyn cyntaf felly Joe yn mynd i edrych ar ôl y bechgyn a fi'n mynd i edrych ar ôl y merched, ond fydda i hefyd yn llofnodi ac arwyddo mae Joe yn dod mewn i'r cwmni hefyd," meddai.

"Mae e'n fwy anodd nag o'n i'n disgwyl o ran creu cysylltiade, fi'n 'nabod y merched yn dda iawn ond ma' nhw 'falle ddim cweit mor parod i falle torri cytundeb a wedyn symud asiant."

Ychwanegodd: "Er bo' fi'n cael y trafodaethau gyda'r merched yma a ma' nhw'n dweud bo' nhw ddim rili yn nabod eu hasiant, ma' e dal i weld yn fwy anoddach.

"Unwaith fydd y cwmni yn lansio fi ar 1 Medi yn swyddogol, fe fydd hynny o bosib yn rhoi mwy o sylw a wedyn fi'n meddwl canolbwyntio ar y ffrwd ieuengaf, falle merched sydd yn cynrychioli Cymru o dan 16 a 17 sydd heb asiantau.

"Unwaith ma' enw da gyda ti, sai'n poeni pa mor slow ma' hwnna yn mynd i gymryd, camau bach sydd angen arna i."

Kath ydy'r asiant benywaidd pêl-droed cyntaf yng Nghymru, ond mae'n awyddus i ganolbwyntio ar y swydd.

"Fi ond mor dda â'r swydd, 'sdim ots na fi yw'r cyntaf, beth sy'n bwysig yw pa fath o job fi'n gallu neud, ydw i'n gallu creu marc ar y gêm a dyna'r peth mwya pwysig i fi yw bod fi'n creu enw i fi'n hun fel asiant o fod yn deg, bod pobl yn gallu ymddiried ynof fi a dweud y gwir, a brwydro rili. 

"Fi'n credu y'n ni yn y byd heddi, dyw merched ddim yn cael eu talu yn uchel iawn ar gyfer y gêm, er bo' nhw'n broffesiynol, ma'r gair 'proffesiynol ' - ma' lot o waith i'w wneud a ma' lot o bobl falle yn cymryd yn ganiataol bod y merched yma ar gytundebau da, dydyn nhw ddim. 

"Yn y byd heddi lle ma' merched angen cynrychiolaeth, bod pobl yn neud e'n deg iddyn nhw a bo' ni'n cytuno a dadlau dros cytundebau teg i ferched, a fi'n credu o'n i'n teimlo bysen i yn gallu gwneud hynny."

Criced

Yn ogystal â chymhwyso fel asiant pêl-droed, mae Kath hefyd wedi pasio'r arholiad i fod yn asiant criced. 

"Fe ges i sgwrs gyda Mark Wallace, pennaeth criced Morgannwg, ym mis Ionawr o ran camp wahanol a perthynas Morgannwg gydag asiantau gwahanol," meddai.

"Ar ôl y sgwrs, 'wedodd e 'Pam fyse ti ddim yn ystyried gwneud arholiad criced i fod yn asiant?' a naethon nhw berswadio fi neud a nes i hynny diwrnod ar ôl dod yn ôl o'r Ewros."

Mae nifer y merched sy'n chwarae criced wedi cynyddu 307% ers 2013 yn ôl Criced Cymru, ac mae'n parhau i gynyddu gyda chynnydd o 15% y llynedd. 

Mae'r cynnydd yn nifer y merched hefyd yn sylweddol, 1,160% yn fwy ers 2013, gan gynnwys cynnydd o 288% ers 2018, yn ôl y corff.

'Anghredadwy'

Llwyddodd Kath i basio'r arholiad i fod yn asiant criced, ac mae'n edrych ymlaen at gael y cyfle i fod yn asiant i chwaraewyr benywaidd criced y gamp yn y dyfodol. 

"Ma'r talent yn anghredadwy, merched ifanc 16,17,18 oed a beth sy'n dda gyda Morgannwg ydy bo' nhw wedi buddsoddi," meddai. 

"Ma' nhw wedi llwyddo i neud cytundeb gyda'r gêm The Hundred gyda'r Tân Cymreig, ma' hynny am ddod â buddsoddiad ariannol enfawr i fewn flwyddyn nesa a ma' hynny yn golygu geith y merched a'r academi merched lot fawr o fuddsoddiad ariannol. 

"Dyna pam mae'r merched yn mynd yn broffesiynol, oherwydd y buddsoddiad yna."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.