
Y darlledwr Clare Balding yn cyflwyno llyfr i weddw Eddie Butler
Mae'r darlledwraig chwaraeon Clare Balding wedi cyflwyno ei nofel newydd i weddw cyn-gapten Cymru a'r sylwebydd Eddie Butler.
Bu farw Eddie Butler, a chwaraeodd i Gymru rhwng 1980 a 1984, gan dod yn gapten ar y tîm chwe gwaith, ym mis Medi 2022, yn 65 oed, tra ar daith elusennol ym Mheriw.
Mae nofel gyntaf Balding wedi'i lleoli yng nghefn gwlad Sir Fynwy ac yn adrodd hanes cymeriad o'r enw Alex, sydd a'i bywyd yn cael ei droi wyneb i waered pan mae hi'n etifeddu fferm adfeiliedig yn annisgwyl.
"Mae'n lle mor hyfryd i'w gynrychioli," meddai Balding, "ac mae mor hawdd ysgrifennu am bobl sydd, wrth eu natur, yn garedig ac yn hael," ychwanegodd.
Yn ogystal â'i gapiau dros Gymru, cafodd Eddie Butler ei alw i garfan y Llewod ar daith i Seland Newydd hefyd, cyn ymddeol o'r gamp a dechrau ar yrfa newydd fel darlledwr rygbi uchel ei barch.
Wrth gyd-weithio, fe ddaeth Eddie a'i wraig, Sue, yn ffrindiau da gyda Clare Balding, ac mae'r cyflwyniad yn y nofel yn darllen: "I Sue, ac er cof am Ed."

Wrth siarad ar BBC Radio Wales, Dywedodd Balding: "Roedd gen i'r copi cyntaf ohono yn fy nwylo ac fe'i cymerais a'i roi i Sue, gan ddweud 'efallai yr hoffet ti edrych ar y dechrau ac efallai yr hoffet ti ddarllen y diolchiadau hefyd. A dyna fe wnaethon, cyn i'r ddwy ohonom grio, llawer."
Mae teyrngedau eraill i rai o enwau mawr y byd rygbi yng Nghymru hefyd yn cael eu cynnwys drwy’r stori, gyda nifer o chwaraewyr chwedlonol yn cael cymeriadau wedi’u henwi ar eu holau, er bod gan y cymeriadau yn y llyfr i gyd bedair coes, meddau Balding.
Fe aeth ymlaen i ddweud, yn y bennod gyntaf, cyflwynir y darllenwyr i Jiffy, y daeargi Cymreig sydd â thuedd i rolio mewn ysgarthion defaid.
Cafodd ei enwi ar ôl cyn-chwaraewr rhyngwladol a darlledwr arall o Gymry, Jonathan Davies, y bu Balding yn gweithio gydag ef gan ddod yn ffrind iddo wrth ohebu ar rygbi’r gynghrair.
Mae tirwedd Cymru yn chwarae rhan ganolog yn y llyfr, gan ddod yn gymeriad ei hun, meddai Balding.
Ychwanegodd ei bod hi a Sue Butler wedi gwneud llawer o gerdded yn yr ardal i'w helpu i geisio dod â'r tir a'r bryniau yn fyw yn y nofel.
Dywedodd Balding ei bod hi hefyd eisiau i'r llyfr ddathlu ysbryd cymunedol a charedigrwydd y Cymry.
"Gobeithio ei fod yn adlewyrchu pa mor anodd yw bywyd ffermio a faint y dylem werthfawrogi ffermwyr a'r hyn maen nhw'n ei wneud i amddiffyn ein tirwedd a pha mor galed maen nhw'n gweithio."