Llywodraeth am ailwampio system apelio ceiswyr lloches
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ailwampio'r system sy'n galluogi i geiswyr lloches apelio yn erbyn penderfyniadau, mewn ymgais i leihau'r niferoedd o fudwyr sy'n aros mewn gwestai tra'u bod yn disgwyl am ddyfarniad.
Fe fydd corff annibynnol newydd yn cael ei sefydlu gyda'r bwriad o glywed achosion yn gyflymach.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper ei bod yn cymryd camau ymarferol i roi'r diwedd ar "oedi annerbyniol".
Mae tua 51,000 o apeliadau gan geiswyr lloches yn disgwyl i gael eu clywed, gan gymryd mwy na blwyddyn ar gyfartaledd i ddod i benderfyniad ar bob un.
Mae'r llywodraeth o dan bwysau cynyddol i leihau eu dibyniaeth ar westai ar gyfer ceiswyr lloches, gyda phrotestiadau wedi eu cynnal ar draws y DU ddydd Sadwrn, gan gynnwys yn Yr Wyddgrug.
Mae gweinidogion wedi addo dod â'r defnydd o westai i ben yn ystod y Senedd hon, ond mae 32,000 o geiswyr lloches yn parhau i dderbyn llety gan y wladwriaeth ar hyn o bryd.
Mae'r llywodraeth wedi addo darparu rhagor o fanylion am sut y mae'n nhw'n bwriadu cyflymu achosion yn yr hydref.
Gyda mesurau eisoes mewn lle i gyflymu penderfyniadau cychwynnol, y gred yw bellach mai oedi yn y llysoedd dros apêl ydy'r achos mwyaf o bwysau yn y system lletya i geiswyr lloches.
Bydd y corff annibynnol newydd yn defnyddio swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol, yn hytrach na dibynnu ar farnwyr.
Ychwanegodd Yvette Cooper ei bod yn gobeithio y bydd ailwampio'r system yn arwain at system sydd yn "gyflym, teg ac annibynnol, gyda safonau uchel yn eu lle."