
Menter yn cynnig teithiau beic tuk tuk o amgylch Caernarfon
Menter yn cynnig teithiau beic tuk tuk o amgylch Caernarfon
Mae menter gymunedol yng Ngwynedd wedi dechrau cynnig teithiau ar feic tuk tuk o amgylch tref Caernarfon.
Cafodd Antur Waunfawr ei sefydlu yn 1984 gyda'r bwriad o ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned.
Fel rhan o'i gwaith fe wnaeth y fenter agor siop llogi ac atgyweirio beiciau ger Porth yr Aur yng Nghaernarfon yn 2014.
Erbyn hyn mae Beics Antur wedi ychwanegu tuk tuk – beic tair olwyn gyda sedd yn y blaen – at ei chasgliad o feiciau.
Yn ôl Tom Workman, rheolwr y safle, mae beic tuk tuk yn "ffordd o neud beicio yn mwy cynhwysol".
"Natho ni ychwanegu tuk tuk i'n fflyd ni er mwyn cael mwy o bobl allan yn seiclo a gweld y dref," meddai.
"Pobl sydd ella ddim yn gallu pedlo rhyw lawer, ond eisiau gweld mwy a teithio dipyn bach bellach."

Daeth egin y syniad o sylweddoli nad oedd pawb yn gallu gweld y dref ar droed.
"Dw i'n meddwl oedd y sbardun i'r syniad y ffaith bo' ni yma, 'di nythu yn erbyn waliau dre, Porth yr Aur a'r clwb yachtio drws nesa," meddai.
"A 'da ni'n gweld lot o tours yn pasio'n aml a 'da ni 'di meddwl fedrwn ni gynnig lle 'di pobl ddim yn gallu cerdded y pellter."
Mae'r fenter bellach yn cynnig teithiau tuk tuk o amgylch Caernarfon, gyda'r opsiwn o gael clywed am hanes y dref.
"'Da ni'n deud ychydig bach am y dref bendigedig yma, ei waliau o'r trydedd ganrif ar ddeg," meddai Mr Workman.
"Ychydig bach am y castell a'r maes a'r llefydd pwysig o fewn Caernarfon."
'Prowd'
Fe aeth Mr Workman ymlaen i ddweud ei fod yn falch o arwain y teithiau newydd.
"'Da ni'n prowd iawn o fod yn gallu cynnig yr hyn 'da ni'n gynnig, y taith hanesyddol," meddai.
"Mae tri eraill o staff ni yn lleol a dw i 'di byw yma ers ryw chwe blynedd a'n teimlo'n weddol lleol erbyn hyn – dw i 'di neud lot o gwaith ymchwil ar y lle 'ma."
Mae Antur Waunfawr yn cyflogi dros 100 aelod o staff, ac yn cefnogi dros 65 o oedolion gydag anableddau dysgu.
Dywedodd Mr Workman y bydd y tuk tuk yn cynnig profiad newydd i bobl ag anableddau dysgu sy'n dod ar brofiad gwaith.
"Mae gyno ni unigolion sy'n dod i gael cyfloeoedd yn y gymuned ac maen nhw'n gweithio yn y siop beics efo ni," meddai.
"Mae'r tuk tuk yn cynnig ffordd arall i siarad a chymdeithasu efo cwsmeriaid a mynd am sbin eu hunain i gael awyr iach ar ôl troi sbanars yn y gweithdy."