Carcharu menyw am sawl trosedd yn ymwneud â phlant

Leah Church

Mae menyw o Rondda Cynon Taf wedi cael ei charcharu ar ôl cael ei chanfod yn euog o sawl trosedd yn ymwneud â phlant.

Cafwyd Leah Church, 37 oed o Donyrefail, yn euog o sawl achos o greulondeb i blant, a throsedd rywiol yn Llys y Goron Abertawe ar 15 Awst.

Cafodd Church ei dedfrydu i bum mlynedd yn y carchar. Pan y bydd hi’n cael ei rhyddhau, fe fydd rhaid iddi gofrestru fel troseddwr rhyw cofrestredig am 10 mlynedd a bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a gorchymyn atal.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Amanda Jenkins: “Rwy'n canmol dioddefwyr y troseddau hyn am ddod ymlaen a rhoi gwybod i ni amdanynt.

“Maen nhw wedi cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac rwy'n falch o weld Church yn cael ei dwyn i gyfrif."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.