
Cynnydd bychan yng nghanlyniadau TGAU, ond gostyngiad mewn niferoedd
Cynnydd bychan yng nghanlyniadau TGAU, ond gostyngiad mewn niferoedd
Mae cynnydd bychan wedi bod yng nghanlyniadau TGAU eleni o gymharu gyda chanlyniadau y llynedd.
Fe wnaeth miloedd o ddisgyblion ar draws Cymru dderbyn eu canlyniadau TGAU fore dydd Iau.
Dywedodd Cymwysterau Cymru bod 307,089 o raddau TGAU wedi'u dyfarnu eleni - gostyngiad o tua 3% ers y llynedd.
Yn ôl y corff, roedd 19.5% o'r graddau TGAU yng Nghymru yn radd A neu uwch o'u cymharu â 18.3% y llynedd.
Roedd 62.5% yn radd C neu uwch (57.3% y llynedd) tra roedd 96.9% yn radd G neu uwch (93.9% y llynedd).
Roedd 63.5% o'r graddau TGAU yng Nghymru yn raddau A* i C o'u cymharu â 62.2% y llynedd.
Y pandemig
Eleni yw'r ail flwyddyn i Gymru ddychwelyd i lefelau graddio arholiadau cyn pandemig Covid-19.
Roedd disgwyl i ganlyniadau ledled y wlad fod yn debyg i'r patrwm cyn 2019.
Fe gafodd canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru eu cyhoeddi ddydd Iau diwethaf.
Roedd y graddau uchaf wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Dywedodd Emma Williams, cynghorydd Gyrfa Cymru, bod disgyblion yn mynd i "fyd newydd efo lot o opsiynau".

"Mae 'na nifer o lwybrau gwahanol i fewn i waith ac addysg bellach, pethau fel prentisiaethau, gwirfoddoli, dechrau gweithio, neu dechrau busnes," meddai.
"Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg, hyfforddiant neu ar brentisiaeth, neu i ddod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig."
Ychwanegodd: "'Da ni yma i helpu chi ar y llwybr sy’n iawn i chi, achos mae pawb yn wahanol."
Gall disgyblion drefnu apwyntiad â gwasanaeth Cymru'n Gweithio ar wefan Gyrfa Cymru.
'Arwydd cadarnhaol'
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, longyfarch disgyblion fore Iau.
"Rydyn ni wedi gweld rhai canlyniadau cryf yn ein graddau uchaf ac ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg," meddai.
"Mae'n arwydd cadarnhaol ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran cyrhaeddiad yn ein hysgolion."
Fe wnaeth hefyd ddiolch i athrawon am eu cefnogaeth a'u gwaith caled.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, bod diwrnod canlyniadau TGAU yn "garreg filltir sylweddol" i ddisgyblion.
"Gall eich canlyniadau eich helpu i gymryd eich cam nesaf, boed hynny'n golygu mentro i fyd gwaith, dechrau prentisiaeth neu hyfforddiant, neu barhau â'ch astudiaethau yn yr ysgol neu'r coleg," meddai.
"Gobeithio eich bod wedi cael y graddau yr oeddech chi eu heisiau. Os ddim, peidiwch â phoeni.
"Mae llawer o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i chi. Gall eich ysgol neu goleg eich helpu gyda chyngor ac arweiniad, ac mae gwybodaeth ar wefan Cymwysterau Cymru gyda dolenni i sefydliadau sy'n gallu rhoi cymorth pellach."