Llywodraeth y DU yn wfftio beirniadaeth gan Blaid Cymru ar ôl cymryd rheolaeth o gwmni dur
Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod beirniadaeth Plaid Cymru wedi i gwmni dur yn Lloegr fynd i ddwylo eu gwasanaeth ar gyfer cwmnïau sy'n methdalu.
Roedd Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y DU ddydd Iau wedi iddyn nhw gymryd rheolaeth o gwmni dur Speciality Steel yn ne Sir Efrog er mwyn achub hyd at 1,450 o swyddi.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod nhw’n bwriadu talu cyflogau a chostau i gadw'r ffatri i redeg nes bod prynwr yn cael ei ganfod.
Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod parodrwydd Llywodraeth y DU i gymryd camau i achub y gwaith dur yn “dangos nad oedd Port Talbot yn flaenoriaeth”.
Speciality Steel yw’r trydydd gwaith dur mwyaf yn y DU, ond fe gadarnhaodd yr Uchel Lys ddydd Iau ei fod yn wynebu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth wrth Newyddion S4C bod cymharu Port Talbot a Speciality Steel yn "anghywir" ac mai mynd i ddwylo eu gwasanaeth ar gyfer cwmnïau sy'n methdalu oedd y "broses arferol".
"Mae cyfrifoldeb nawr ar y Derbynnydd Swyddogol annibynnol i gyflawni ei ddyletswyddau fel diddymwr, gan gynnwys sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu, tra ein bod ni hefyd yn sicrhau bod staff a chymunedau lleol yn cael eu cefnogi," meddai.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y llywodraeth yn "achub" y cwmni a bod hynny’n fwy ffafriol nag ymdriniaeth y Llywodraeth o Bort Talbot sy’n mynd drwy broses o symud i ffwrneisi chwyth i rai trydan gan olygu colli tua 2,800 o swyddi.
Roedd Plaid Cymru wedi galw am wladoli'r gwaith dur.
“Mae Llywodraeth y DU unwaith eto heddiw, drwy gamu i mewn i achub gweithfeydd dur yn Sir Efrog, wedi dangos nad oedd achub miloedd o swyddi gwneud dur cynradd ym Mhort Talbot yn flaenoriaeth i Lafur,” meddai Rhun ap Iorwerth ddydd Iau.
“Cafodd ein cymunedau dur eu bradychu ac roeddent yn haeddu gwell.”
Dywedodd AS Ynys Môn, Llinos Medi, ei fod yn esiampl o Gymru yn cael ei thrin yn “annheg”.
“Lle'r oedd brys Llywodraeth Lafur y DU pan oedd miloedd o swyddi yn y fantol ym Mhort Talbot?” gofynnodd.
‘Pryderus’
Roedd Plaid Cymru ac unig AS y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, David Chadwick, wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth y DU i ymyrryd er mwyn cyfarwyddo British Steel yn Scunthorpe ym mis Ebrill yn yr un modd.
Bryd hynny fe ymatebodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, gan ddweud bod y sefyllfa yn y ffatri yn Scunthorpe fel un "wahanol iawn" i'r sefyllfa ym Mhort Talbot.
"Dyma'r unig safle yn y DU lle mae dur sy'n cael ei gynhyrchu o ddeunydd crai (virgin steel) yn cael ei wneud, a dyna pam ei fod yn fater o bwys cenedlaethol, pwysigrwydd strategol," meddai Stevens.
Wrth drafod dyfodol Speciality Steel ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth y DU: “Rydym yn gwybod y bydd hwn yn gyfnod pryderus iawn i staff a’u teuluoedd, ond rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddyfodol disglair a chynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur a swyddi cynhyrchu dur yn y DU."
Ond dywedodd penaethiaid Speciality Steel fod cymryd y cam o ddirwyn y busnes i ben yn “afresymol”.
Dywedodd Jeffrey Kabel, prif swyddog trawsnewid: “Byddai’r cynllun a gyflwynodd GFG (Gupta Family Group Alliance, sy'n riant gwmni i Speciality Steel) i’r llys wedi sicrhau buddsoddiad newydd yn niwydiant dur y DU, gan amddiffyn swyddi a sefydlu platfform gweithredol cynaliadwy o dan strwythur llywodraethu newydd gyda goruchwyliaeth annibynnol.
“Yn lle hynny, bydd diddymu y busnes yn creu ansicrwydd hirdymor a'n codi costau sylweddol ar drethdalwyr y DU ar gyfer setliadau a threuliau cysylltiedig."