Cwest yn clywed bod menyw o Gaerffili wedi plymio'n fwriadol o awyren

Jade Damarell

Fe wnaeth menyw o Gaerffili blymio'n fwriadol i'w marwolaeth o awyren ar ôl i'w pherthynas ddod i ben.

Fe glywodd cwest fod Jade Damarell, 32 oed, wedi plymio i'w marwolaeth ar dir fferm ger Fleming Field, Shotton Colliery yn Sir Durham yn Lloegr ar 27 Ebrill.

Clywodd y cwest nad oedd y neidwraig awyr profiadol wedi defnyddio ei phrif barasiwt na’r parasiwt wrth gefn, gan hefyd ddiffodd dyfais oedd yn agor y parasiwt yn awtomatig.

Roedd Ms Damarell wedi gadael cyfarwyddiadau ar sgrin clo ei ffôn ar sut i gael mynediad ato, gan adael manylion am ei harian yn ei ffolder 'nodiadau', clywodd y cwest yng Nghanolfan Ddinesig Crook yn Sir Durham ddydd Iau.

Daeth y crwner Leslie Hamilton i'r casgliad fod Ms Damarell wedi marw o hunanladdiad ar ôl darganfod ei bod wedi bwriadu cymryd ei bywyd ei hun.

Cafodd Ms Damarell, a oedd yn rheolwr marchnata, ei geni yn Hong Kong ac roedd yn byw yng Nghaerffili.

Roedd hi wrth ei bodd yn neidio o awyren ac wedi cwblhau mwy na 500 o neidiau.

Y diwrnod cyn iddi farw, roedd hi wedi cwblhau chwe naid yn ddiogel a heb broblemau.

Fe wnaeth Dr Hamilton grynhoi datganiad gan ei chyn-bartner a ddywedodd eu bod wedi "dod â’u perthynas i ben y noson cynt".

Ni aeth y crwner i fanylion pellach, ond dywedodd bod y pâr wedi cwrdd drwy'r gymuned neidio o awyren.

Fe wnaeth archwiliad post-mortem nodi fod Ms Damarell wedi marw o ganlyniad i "drawma sylweddol" (blunt force trauma).

Yn ôl adroddiad gan British Skydiving, a oedd wedi ymchwilio i'r digwyddiad, roedd ei holl offer yn gweithio'n iawn.

Byddai hi fel arfer yn gwisgo camera ar ei helmed ond nid oedd ganddi un pan syrthiodd, meddai'r sefydliad.

Fe wnaeth ei rhieni, Liz ac Andrew Samuel, wrando ar y gwrandawiad o bell.

Ar ôl y cwest, dywedodd ei theulu: "Roedd ein merch annwyl Jade yn berson disglair, hardd, dewr a gwirioneddol eithriadol.

"Yn ysbryd disglair, anturus, rhydd, roedd hi’n byw gydag egni, angerdd a chariad aruthrol.

"Fe wnaeth ei chynhesrwydd a’i charedigrwydd gyffwrdd â bywydau nifer."

 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.