Pryder na fydd Ethan Ampadu yn holliach i wynebu Kazakhstan

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Ethan Ampadu

Mae pryder na fydd Ethan Ampadu ar gael i wynebu Kazakhstan mewn pythefnos ar ôl dioddef anaf tra'n chwarae i Leeds United.

Fe wnaeth rheolwr Leeds, Daniel Farke gadarnhau ddydd Iau bod y chwaraewr canol cae wedi dioddef anaf i'w ben-glin yng ngêm gyntaf y clwb ers dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Everton.

"Mae'n newyddion drwg. Ni fydd ar gael tan adeg y gemau rhyngwladol," meddai Farke.

"Dwi'n gobeithio y bydd ar gael ar ôl y gemau rhyngwladol, ond fe fydd yn golled yn ystod y gemau nesaf.

"Dyw e ddim yn ddelfrydol. Fe yw ein capten ac yn chwaraewyr pwysig, bydd angen i ni ddod o hyd i ddatrysiad."

Mae disgwyl i Ampadu, sy'n 24 oed golli tair gêm nesaf Leeds.

Bydd Cymru yn wynebu Kazakhstan yn Astana ar 4 Medi, cyn wynebu Canada mewn gêm gyfeillgar yn Abertawe ar 9 Medi.

Mae Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, gyda Gogledd Macedonia ar y brig a Gwlad Belg yn y trydydd safle.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.