Caerdydd: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw
Mae dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio menyw yng Nghaerdydd.
Cafodd ymchwiliad i’w llofruddiaeth ei lansio wedi i swyddogion o Heddlu’r De gael eu galw i ardal South Morgan Place yng Nglan yr Afon fore dydd Iau, ar ôl cael gwybod bod menyw wedi’i hanafu’n ddifrifol yno.
Roedd parafeddygon hefyd yn bresennol ond er gwaethaf eu hymdrechion, bu farw’r fenyw yn y fan a’r lle.
Dyw Heddlu’r De ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’i marwolaeth, meddai’r llu.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Mark O’Shea y gall trigolion ddisgwyl gweld mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth sydd heb siarad â'r heddlu eto i gysylltu,” meddai.