Palesteiniaid yn ffoi o Ddinas Gaza wrth i Israel ddechrau ei hymgyrch filwrol
Mae nifer o Balesteiniaid yn ffoi o Ddinas Gaza ar ôl i fyddin Israel ddechrau meddiannu'r ddinas, meddai swyddogion yno.
Mae milwyr Israel wedi sefydlu troedle ar gyrion y ddinas, sy'n gartref i fwy na miliwn o Balesteiniaid, yn dilyn dyddiau o fomio dwys.
Mae'r datblygiad wedi ysgogi Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, i adnewyddu galwadau am gadoediad ar unwaith "er mwyn osgoi'r farwolaeth a'r dinistr" y byddai ymosodiad yn "anochel ei achosi".
Fe wnaeth y Brigadydd-Gadfridog Effie Defrin, llefarydd milwrol Israel, gadarnhau ddydd Mercher fod "lluoedd Amddiffyn Israel yn dal cyrion Dinas Gaza".
Y gred yw bod tua 60,000 o filwyr wrth gefn hefyd wedi cael eu galw i helpu i gipio Dinas Gaza.
Ond ni fydd y milwyr yma yn dechrau eu dyletswyddau tan fis Medi, yn ôl swyddog milwrol.
Mae milwyr Israel eisoes yn gweithredu yng nghymdogaeth Zeitoun yn Ninas Gaza, a gwersyll ffoaduriaid Jabalya yng ngogledd Gaza.
Fe wnaeth cabinet rhyfel y Prif Weinidog Benjamin Netanyahu roi'r golau gwyrdd i'r cynlluniau i feddiannu Dinas Gaza fis diwethaf.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys meddiannu Gaza gyfan yn y pen draw, er gwaethaf beirniadaeth ryngwladol gynyddol.
Dywedir iddo gyflymu'r amserlen ar gyfer cymryd rheolaeth o gadarnleoedd Hamas ar ôl i'r ddwy ochr wrthdaro ger Khan Younis ddydd Mercher.
Mae Israel yn honni y bydd yn helpu unrhyw sifiliaid i adael cyn i unrhyw ymosodiad ddechrau.