Clwb Rygbi Nant Conwy wedi chwarae 'rhan ganolog' ym mywydau pedair o sêr Cymru

Clwb Rygbi Nant Conwy wedi chwarae 'rhan ganolog' ym mywydau pedair o sêr Cymru

Mae rhieni pedair chwaraewraig rygbi o Sir Conwy sydd wedi eu dewis i dîm Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn dweud bod eu clwb lleol wedi chwarae “rhan ganolog” yn eu bywydau.

Wrth i Gymru baratoi i herio goreuon y byd yn Lloegr dros yr wythnosau nesaf, fe fydd Clwb Rygbi Nant Conwy yn cael ei gynrychioli yn y garfan gan y chwiorydd Gwenllïan ac Alaw Pyrs, a Nel a Branwen Metcalfe.

Mewn sgwrs gyda Newyddion S4C ar faes rygbi Nant Carw yn Nhrefriw, ger Llanrwst, dywedodd mamau’r pedair eu bod yn “falch iawn” o'u gweld yn cael eu cynnwys yn y garfan genedlaethol.

Dywedodd Gwyneth Metcalfe o Lanrhychwyn sy’n fam i Nel a Branwen: “Cynrychioli Cymru, does 'na’m gwell nagoes. A pan maen nhw’n canu’r anthem ‘na mae’n codi ias. Mae’n arbennig.”

Ychwanegodd Ann Pyrs o Badog, mam Gwenllïan ac Alaw: “Mi fysa’n wych gweld y pedair ar y cae efo’i gilydd.”

Image
Y chwiorydd Metcalfe a Pyrs
Y chwiorydd Metcalfe a Pyrs: Branwen a Nel Metcalfe, a Gwenllian ac Alaw Pyrs

Yn aelod profiadol o dîm Cymru, mae gan y prop Gwenllïan Pyrs 47 o gapiau dros Gymru a hithau dim ond yn 27 oed. Fe ddechreuodd ei thaith yn y gamp yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy, gan chwarae am y tro cyntaf yn 16 oed.

Roedd ei chwaer fach, Alaw, yn saith oed yn dechrau chwarae. Bellach yn 19 oed, mae hi’n aelod pwysig o’r garfan ac wedi ennill wyth cap dros ei gwlad ar ôl ei hymddangosiad cyntaf y llynedd.

Yn yr un tîm ieuenctid Nant Conwy ag Alaw, fe wnaeth Nel Metcalfe ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 2023.

Mae’r cefnwr bellach ag 11 cap dros Gymru ac roedd yn rhan allweddol o’r tîm a lwyddodd i drechu’r Wallaroos ar domen ei hunain am y tro cyntaf erioed, ar eu taith i Awstralia fis diwethaf.

Fe fydd y chwaraewr rheng ôl Branwen Metcalfe, 18 oed, yn gobeithio ennill ei chap cyntaf yn y gystadleuaeth, a hynny ar ôl derbyn yr alwad ar ôl bod yn gapten ar dîm Dan 20 Cymru dros yr haf.

Mae’r chwiorydd Pyrs wedi rhannu’r cae gyda’i gilydd yn y crys coch, ond mae mam Nel a Branwen yn gobeithio gweld ei merched yn cyflawni’r gamp hwnnw dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Gwyneth: “Mae’r clwb ‘ma di bod yn reit ganolog. 

“Maen nhw ‘di tyfu fyny lot yn y clwb ma – a dim jyst rygbi. Ryw nosweithiau allan yn eu harddegau, ond hwb cymdeithasol hefyd, gigs a ballu yma.

“Mae Nel ac Alaw di chwarae dipyn efo’i gilydd yn dan 13 a dan 15 dipyn, a mi natho’n nhw ddechrau efo’i gilydd yn Awstralia. Ond di Nel heb chwarae fawr ddim hefo Branwen ers pan o’n nhw’n ifanc iawn.

Image
Lluniau Branwen M
Lluniau o Branwen yn ystod ei chyfnod â Chlwb Rygbi Nant Conwy

“Pan aeth Nel i mewn gynta oedd o’n braf bod Gwenllïan yna achos hi ‘di un o’r rhei hynna rŵan, felly mae’n braf bod y tair iau a bod ‘na rhywun fel Gwenllïan i edrych ar ôl nhw.

“Ond mae’r garfan i gyd i weld reit unedig a pawb yn glên. Odd Branwen yn teimlo bod hi ‘di cael croeso mawr yn syth. Ma hynna’n bwysig ofnadwy.”

Dywedodd Ann: “Maen nhw’n andros o ffrindia dydi, a mae’n beth neis bod ‘na gymaint o’r gogledd yn mynd. Mae’r clwb di bod yn bwysig iawn i nhw i gyd.”

'Gorfoledd'

Ers i Gwenllïan ennill ei chap cyntaf yn 2017, mae mynediad merched i’r gamp wedi “datblygu’n rhyfeddol”, yn ôl y rhieni.

Ond un peth sydd wedi aros yn gyson iddyn nhw yw’r emosiynau wrth wylio’r gemau o’r ystlys.

Image
Alaw Pyrs
Alaw Pyrs yn chwarae yn lliwiau Nant

Dywedodd Ann: “Dwi’n reit nerfus ag ofn iddyn nhw frifo - ond dyna ydi eu peth nhw, dyna maen nhw’n licio neud, a mae rywun ‘di dechra arfer rŵan.

“Ond dwi o hyd pan maen nhw’n canu Hen Wlad fy Nhadau, mae o’n reit emosiynol.“

Dywedodd Gwyneth: “Mae’n gallu bod yn artaith weithia - ti jyst yn disgwyl am y chwiban olaf.

“Ond ti’n gwbo, mae’n wbath arbennig pan maen nhw’n ennill - dydi o’m yn digwydd yn aml!

“Ond mae siom pan maen nhw’n colli hefyd wedi’r holl ymdrech, ti’n teimlo eu siom nhw dwyt, ond ti’n teimlo gorfoledd nhw hefyd rhywsut pan maen nhw’n ennill.”

Fe fydd Cymru yn chwarae eu gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Yr Alban ar ddydd Sadwrn 23 Awst am 14.45.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.