Badenoch yn galw ar gynghorau Ceidwadol i herio gwestai lloches yn y llys
Mae Kemi Badenoch wedi galw ar fwy o gynghorau sydd dan reolaeth y Blaid Geidwadol i ystyried lansio heriau cyfreithiol yn erbyn defnyddio gwestai i gartrefu ceiswyr lloches yn eu hardaloedd.
Mewn llythyr at arweinwyr cynghorau Ceidwadol, dywedodd Ms Badenoch hwyr nos Lun ei bod yn eu "hannog" i "gymryd yr un camau" â Chyngor Epping yn Essex "os yw eich cyngor cyfreithiol yn ei gefnogi".
Mae'r Blaid Lafur wedi wfftio llythyr Ms Badenoch fel "nonsens anobeithiol a rhagrithiol", ond mae sawl un o'i hawdurdodau lleol eisoes wedi awgrymu y gallen nhw gychwyn camau cyfreithiol yn erbyn gwestai lloches yn eu hardaloedd.
Daw hyn ar ôl i’r Uchel Lys roi gwaharddeb dros dro i Gyngor Epping, sydd dan reolaeth y Ceidwadwyr, i atal mudwyr rhag cael llety yng Ngwesty’r Bell yn Essex.
Mae'r penderfyniad wedi ysgogi cynghorau dan reolaeth y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Reform UK i ymchwilio i weld os allen nhw wneud yr un peth.
Mae'r rhain yn cynnwys cynghorau Tamworth a Wirral o dan y Blaid Lafur, cynghorau Broxbourne a Dwyrain Lindsey o dan y Ceidwadwyr a chynghorau
Sir Stafford a Gorllewin Sir Northampton o dan reolaeth Reform UK.
Problemau i'r Swyddfa Gartref
Mae penderfyniad yr Uchel Lys ddydd Mawrth hefyd wedi achosi problemau o bosibl i'r Swyddfa Gartref, sydd â dyletswydd gyfreithiol i gartrefu ceiswyr lloches tra bod eu ceisiadau'n cael eu hystyried.
Os yw deddfau cynllunio yn atal y Llywodraeth rhag defnyddio gwestai, bydd yn rhaid i weinidogion ddod o hyd i lety arall ar gyfer ceiswyr lloches.
Yn ei llythyr, fe wnaeth Mrs Badenoch ganmol her gyfreithiol Cyngor Epping a dywedodd wrth gynghorau o dan y Blaid Geidwadol y byddai'n "eich cefnogi i gymryd camau tebyg i amddiffyn eich cymuned".
Ond ychwanegodd y byddai'r sefyllfa'n "dibynnu ar amgylchiadau unigol yr achos" ac awgrymodd y gallai'r cynghorau ddilyn "opsiynau gorfodi cynllunio eraill".
Mae Ms Badenoch hefyd wedi cyhuddo'r Blaid Lafur o "geisio gwthio gwestai lloches o'r fath heb ymgynghori a phroses briodol", gan ddweud bod y Llywodraeth wedi ailagor Gwesty'r Bell fel llety lloches ar ôl i'r Ceidwadwyr ei gau.
Defnyddiwyd y gwesty yn flaenorol fel llety lloches am gyfnod byr yn 2020, ac yna rhwng 2022 a 2024 o dan y llywodraeth Geidwadol flaenorol.
'Stynt pathetig'
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur fod llythyr Mrs Badenoch yn "stynt pathetig" ac yn "nonsens anobeithiol a rhagrithiol gan benseiri’r system loches sydd wedi torri", gan ddweud bod "20,000 yn llai o geiswyr lloches mewn gwestai nag ar eu hanterth o dan y Ceidwadwyr" bellach.
Daw’r llythyr cyn cyhoeddi ffigurau ddydd Iau sy'n dangos faint o geiswyr lloches oedd yn aros dros dro mewn gwestai ddiwedd mis Mehefin eleni.
Mae ffigurau’r Swyddfa Gartref o’r chwarter blaenorol yn dangos bod 32,345 o geiswyr lloches yn aros dros dro mewn gwestai yn y DU ddiwedd mis Mawrth.
Roedd hyn yn is na 15% o ddiwedd mis Rhagfyr, pan oedd y cyfanswm yn 38,079, a 6% yn is na’r 34,530 ar yr un adeg flwyddyn ynghynt.
Mae ffigurau ar y rhai oedd yn aros mewn gwestai yn dyddio’n ôl i fis Rhagfyr 2022 ac yn dangos bod y niferoedd wedi cyrraedd uchafbwynt ddiwedd mis Medi 2023, pan oedd 56,042 o geiswyr lloches mewn gwestai.
Nid yw data wedi'i ryddhau ar nifer y gwestai sy'n cael eu defnyddio, ond y gred yw bod mwy na 400 o westai lloches ar agor yn haf 2023.
Mae'r Blaid Lafur wedi dweud bod hyn wedi'i leihau i lai na 210 ers hynny.
Llun: Reuters