
'Cynnydd sylweddol' yn nifer yr adroddiadau o daro anifeiliaid dros yr haf
Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o adroddiadau o daro anifeiliaid yng Nghymru yn nhymor yr haf yn ôl yr RSPCA.
Dywed yr elusen fod yna gynnydd o 100% yn yr adroddiadau o daro yn ystod misoedd yr haf o 2020 i 2024 (121 yn 2020 a 242 yn 2024).
Mae cyfanswm o 885 o adroddiadau wedi eu gwneud dros y cyfnod o'r bedair blynedd yn ôl yr elusen.
Yn 2024, y siroedd â'r adroddiadau uchaf o daro anifeiliaid oedd Caerdydd (29), Rhondda Cynon Taf (25) ac Abertawe (18).
Ynys Môn oedd â'r lleiaf o adroddiadau (1), yna Merthyr Tudful (3), Ceredigion (5), a Blaenau Gwent (6).
Dywedodd Ian Briggs, Pennaeth yr Uned Gweithrediadau Arbennig yn yr RSPCA: “Mae’r rhain yn ffigurau gwirioneddol bryderus.
"Nid yw’n glir pam fod cynnydd mor ddramatig mewn cam-drin anifeiliaid, ond yr hyn sy’n amlwg yw bod anifeiliaid yn dioddef wrth law pobl ar raddfa llawer mwy nag y mae llawer o bobl yn ei sylweddoli.
"Dyna pam mae ein hymgyrch Creulondeb yr Haf mor bwysig i amlygu'r ffaith fod cyfnod yr haf yn un o boen a dioddefaint i filoedd o anifeiliaid."
Yng Nghymru, fe gafodd ci Jack Russell o'r enw Casper ei daro gan ddyn a'i ollwng i'r llawr o uchder yn ôl yr elusen.

Dywed yr RSPCA na chafodd ei anafu, ond ei fod yn debygol o fod wedi profi poen a gofid.
Ychwanegodd yr elusen fod y dyn, sef nid perchennog Casper, wed cael ei erlyn gan yr RSPCA.
Ychwanegodd Mr Briggs: "Rydym ni wedi darganfod fod deunydd CCTV, camerâu ar ddrysau a ffonau clyfar yn darparu mewnwelediad i gymdeithas nad ydym ni wedi ei brofi o'r blaen, gan olygu fod taro anifeiliaid yn fwy tebyogol o gael ei ddal ar gamera mewn archfarchnad, meysydd parcio, ar strydoedd, a hyd yn oed y tu ôl i ddrysau caedig mewn cartref."
Cŵn oedd yr anifail anwes mwyaf tebygol i gael eu taro yn ôl yr elusen, gyda 21,000 adroddiad o daro cŵn wedi ei dderbyn gan yr elusen y llynedd.