Sir Gâr: Arestio dyn ar amheuaeth o achosi anaf difrifol i ddyn arall drwy yrru'n beryglus
Mae dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus yn Sir Gâr.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Manordeilo tua 01.45 dydd Sul yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A40.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Mitsubishi L200 du a Skoda Fabia glas.
Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ac mae'n parhau i gael triniaeth yno.
Cafodd dyn 17 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus a gyrru dros y terfyn cyflymder.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei fod bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Cafodd y ffordd ei chau yn dilyn y gwrthdrawiad ac fe gafodd ei hailagor am tua 17.20 ddydd Sul.
Apêl am wybodaeth
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A40 ar adeg y digwyddiad, gan gynnwys gyrwyr â chamera dashcam, i gysylltu â nhw.
Yn benodol mae swyddogion yn dymuno siarad â gyrrwr Peugeot glas a oedd yn gyrru o flaen y Mitsubishi.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25*680344.