Dynes yn pledio'n euog i gyflenwi cetamin i'r actor Matthew Perry
Mae dynes wedi cytuno i bledio’n euog i gyflenwi’r cyffuriau a wnaeth arwain at farwolaeth yr actor Matthew Perry.
Mae disgwyl i Jasveen Sangha, 42 oed, bledio’n euog i bum cyhuddiad yn Los Angeles, gan gynnwys un cyhuddiad o gyflenwi cetamin gan achosi anaf corfforol neu farwolaeth, yn ôl adran gyfiawnder yr Unol Daleithiau.
Cafodd Sangha, sydd â dinasyddiaeth Americanaidd a Phrydeinig, ei chyhuddo wedi i erlynwyr ganfod sawl pecyn o cetamin yn ei chartref yn Los Angeles.
Pe bai yn ei chael yn euog, fe allai wynebu dedfryd o hyd at 65 mlynedd yn y carchar.
Cafodd corff Matthew Perry, oedd yn 54 oed, ei ddarganfod mewn twba poeth ym mis Hydref 2023.
Fe ddywedodd arbenigwr meddygol ar y pryd fod cetamin wedi ei ddarganfod yn ei waed.
Roedd yr actor, sydd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y gyfres boblogaidd Friends, wedi bod yn dioddef gydag iselder.
Roedd wedi bod yn defnyddio'r cyffur yn gyfreithlon trwy ei feddyg arferol er mwyn trin ei salwch.
Ond roedd wedi bod yn gofyn am fwy o cetamin nag oedd ei ddoctor yn fodlon ei roi iddo.
Mae Sangha yn un o bump o bobl sydd wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth.
Fis Mehefin fe ddywedodd Dr Salvador Plasencia y byddai’n pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o ddosbarthu'r cyffur.
Mae'n wynebu uchafswm o 40 mlynedd dan glo.