O Irac i'r Barri: Cyn focsiwr Olympaidd yn newid gyrfa i fod yn heddwas yn ne Cymru

Llun: Reuters / Heddlu De Cymru
Najah Ali

Mae cyn focsiwr wnaeth gystadlu yn y Gemau Olympaidd wedi newid ei yrfa a bellach y gweithio fel heddwas yn ne Cymru.

Yn 2004, roedd Najah Ali yn wedi cynrychioli Irac yng Ngemau Olympaidd Athens yng Ngwlad Groeg.

Yn focsiwr amatur ar y pryd, ef oedd y cyntaf i gynrychioli ei wlad yn y gamp ers yr 1980au.

"Pan rydych chi'n meddwl am y peth, mae rhai pobl yn paratoi i gyrraedd y Gemau Olympaidd am eu bywyd cyfan," meddai.

"Tyfais i fyny gyda bocsio, ond doeddwn i erioed wedi breuddwydio am y gyrraedd y lefel hwnnw.

"Tyfu fyny yn Irac, doedd dim cyfle i fi feddwl amdani. Ond allan o nunlle, roeddwn i yno yn Athens yn 2004."

Image
Najah Ali yn hyfforddi gyda Maurice Watkins. (Llun: Reuters)
Najah Ali yn hyfforddi gyda Maurice Watkins (Llun: Reuters)

Yn ystod y cyfnod hwnnw nid oedd athletwyr o Irac yn cael llawer o gyfle i gystadlu oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn y wlad.

Ond roedd Llywodraeth America wedi neilltuo Maurice Watkins, oedd yn gyn focsiwr proffesiynol, i hyfforddi bocswyr Irac ar gyfer y gystadleuaeth.

"Roeddwn i wedi hyfforddi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn yr Unol Daleithiau," meddai Najah Ali. 

"Hyfforddais gyda hyfforddwr Americanaidd, Maurice Watkins, sy'n cael ei adnabod fel y Termite. Maen nhw'n gwneud ffilm am ei stori, gan gynnwys ei daith i Irac.

"China oedd lleoliad cystadleuaeth ragbrofol y Gemau Olympaidd. Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi gwneud digon i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd yn llwyr, ond aeth y beirniaid yn fy erbyn. 

"Ond oherwydd bod Irac wedi bod yn y rhyfel, ac - i ryw lefel - wedi dod allan ohono, cawsom le cerdyn gwyllt."

Fe wnaeth Mr Ali a'i wlad ddenu sylw'r cyfryngau yn ystod y gystadleuaeth, ac enillodd ei ornest gyntaf yn erbyn bocsiwr o Ogledd Korea.

Ond fe gollodd yn erbyn Aleksan Nalbandyan o Rwsia yn yr ail rownd.

Symud i'r DU

Symudodd Mr Ali i Lundain yn 2007, ac yn yr un flwyddyn dechreuodd ei yrfa fel bocsiwr proffesiynol.

Yn ystod ei yrfa paffiodd yn erbyn Paul Butler, cyn bencampwr y byd.

Erbyn iddo droi'n 34, penderfynodd rhoi'r gorau i'w yrfa fel bocsiwr i dreulio rhagor o amser gyda'i wraig, oedd o'r Rhondda, a'i blentyn cyntaf.

Newidiodd ei yrfa ac fe ddechreuodd swydd yn y Rhondda.

"Prynais fy nhŷ cyntaf, a chefais swydd fel gwerthwr. 

"Ar ôl Covid, roeddwn i wedi cael llond bol ar weithio mewn swyddfa, a dechreuais i yrfa fel gyrrwr bws ar lwybrau yn y Rhondda – lle rwy'n byw – a Chaerdydd.

"Rwy'n dal i fod yn rhan o glwb bocsio, a hynny yn Tiger Bay yng Nghaerdydd. Dywedodd un o aelodau'r clwb eu bod nhw'n ceisio cael campfa focsio at ei gilydd i ddarparu gweithgaredd cadarnhaol i bobl ifanc.

"Siaradais â nhw am fy mhrofiad bocsio fy hun, ac roeddwn i wedi dweud y byddwn i'n eu helpu, ond bod angen lle mwy arnyn nhw."

Image
Roedd Najah Ali wedi cwlbhau gradd yng Nghyfrifiadureg tra yn Iraq. Llun: Reuters
Roedd Najah Ali wedi cwblhau gradd yng Nghyfrifiadureg tra yn Irac (Llun: Reuters)

Wedi iddo ddechrau helpu rhedeg y gampfa, roedd yr heddlu wedi dechrau ymwneud yn fwy gyda'r clwb ac yn cynnig cymorth gyda chyfarpar a nawdd.

Dyna sut ymunodd Najah Ali â'r llu, ac erbyn mis Medi 2024, roedd yn heddwas gyda heddlu De Cymru.

"Awgrymodd rhywun sydd bellach yn gydweithiwr, ac yn ffrind, y gallwn i wneud cais i fod yn swyddog heddlu. A dyma fi nawr.

"Mae wedi bod yn hwyl hyd yma, ond mae'n waith caled. Fel swyddog ymateb, dydych chi byth yn gwybod beth i'w ddisgwyl – efallai y byddwch chi'n rhuthro i achub bywyd rhywun.

"Y diwrnod o'r blaen, tra roeddwn i ar shifft, cerddodd rhai plant oedd wedi bod yn y clwb o'r blaen ataf i ddweud helo ac ysgwyd fy llaw. 

"Roedd y swyddog heddlu arall roeddwn i gydag ef wedi synnu, ond rydw i'n ceisio bod y bont honno rhwng yr heddlu a phobl ifanc."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.