'Colli lle hollbwysig': Yr Academi Frenhinol Gymreig i gau ar ddiwedd yr wythnos
Mae un o ymddiriedolwyr yr Academi Frenhinol Gymreig wedi dweud y bydd y gogledd yn "colli lle hollbwysig" ym myd celf wrth iddyn nhw gau drysau eu horiel yn nhref Conwy ar ddiwedd yr wythnos.
Mae’r sefydliad celfyddydol wedi bod ar agor ers 144 o flynyddoedd, ond mae bellach yn wynebu cau oherwydd costau uwch a diffyg cyllid.
Dywedodd Glen Farrelly y byddai angen dod o hyd i £100,000 er mwyn cynnal yr academi am flwyddyn arall.
"Mae'n wirioneddol dorcalonnus," meddai'r artist, sy'n byw yn Wrecsam, wrth Newyddion S4C.
"Mae'n teimlo fel bod yr holl waith caled bron wedi bod yn wastraff amser.
"Dw i'n meddwl y gallai'r Academi fod wedi cael ei achub, a dw i'n meddwl y dylai fod wedi'i achub.
"A dw i'n meddwl y gallem fod wedi cael y cymorth a fyddai wedi gweld y lle yn ffynnu unwaith eto."
Ar hyn o bryd, dywedodd Mr Farrelly ei bod yn debygol y bydd yr oriel yn cau ei drysau ddydd Sul.
Ond mae'r cerflunydd yn dawel obeithiol y byddan nhw'n dod o hyd i ychydig o arian.
"Byddai £20,000 yn ein cadw ni i fynd am ychydig yn hirach, a byddai £100,000 yn ein cadw ni i fynd am flwyddyn, efallai dwy flynedd hyd yn oed," meddai.
"Gallwn ni fuddsoddi hynny mewn marchnata, neu godi hyd yn oed mwy o ymwybyddiaeth o'r hyn rydym ni'n ei wneud.
"A gobeithio wedyn y byddai hynny'n dod â phobl yn ôl i Gonwy."
Heriau cynyddol
Yn ôl Mr Farrelly, y pandemig Covid oedd gwraidd nifer o broblemau'r Academi.
"Ers y pandemig, dydi'r academi heb weld nifer yr ymwelwyr oedd gennym ni'n flaenorol," meddai.
"Mae ein gwerthiant wedi bod i lawr, ac mae hynny wedi bod i lawr ledled y wlad, felly nid ni yw'r unig rai.
"Ond dwi'n meddwl hefyd mae nifer o bobl wedi anghofio am yr Academi, anghofio bo' ni yma bron."
Dywedodd bod y sefydliad wedi methu cael arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru na Llywodraeth Cymru.
Wrth gyhoeddi'r newyddion dros y penwythnos, dywedodd yr Academi mewn datganiad: "Nid dyma’r dyfodol a ddychmygwyd gennym ar gyfer yr Academi, ac rydym yn gwybod y bydd y newyddion hwn yn cael ei deimlo’n ddwfn gan y nifer o bobl sy’n gwerthfawrogi ei lle ym mywyd diwylliannol Cymru.
"Rydym yn falch o hanes hir yr Academi a’r gymuned sydd wedi tyfu o’i chwmpas.
"Ein gobaith diffuant yw, ymhen amser, y gall rhywbeth newydd godi o’i hetifeddiaeth."
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r sefydliad gyhoeddi apêl frys am gyllid ar ddechrau mis Awst.
Fe gafodd yr Academi Frenhinol Gymreig ei sefydlu gan grŵp o artistiaid oedd yn frwdfrydig am dirlun gogledd Cymru yn 1881, ac fe gafodd y teitl "Frenhinol" gan y Frenhines Fictoria flwyddyn yn ddiweddarach.
Os fydd yr oriel yng Nghonwy yn cau ddydd Sul, ni fydd gan Gymru academi frenhinol ddim mwy.