Cwmni o Fôn yn noddi crysau pêl-droed dyfarnwyr Uwch Gynghrair Lloegr

Logo Huws Gray ar git dyfarnwr

Mae cwmni nwyddau adeiladu o Fôn wedi cyhoeddi y bydd yn noddi crysau ar gyfer dyfarnwyr prif gemau pêl-droed Lloegr.

Dywedodd Huws Gray, a gafodd ei sefydlu yng Ngaerwen yn 1990, y bydd logo'r cwmni yn ymddangos ar git dyfarnwyr yng ngemau'r dynion a'r menywod ar gyfer tymor 2025/26, gan gynnwys Uwch Gynghrair Lloegr, Uwch Gynghrair 'Super League' y menywod yn Lloegr, gemau Cynghrair Pêl-droed Lloegr yr EFL. a'r Cwpan FA.

Mae'n rhan o bartneriaeth gyda'r Professional Game Match Officials, sef y corff sy'n gyfrifol am ddyfarnu gemau pêl-droed proffesiynol Lloegr.

Bydd y logo gwyrdd a gwyn hefyd yn ymddangos ar git dyfarnwyr cynorthwyol a swyddogion VAR ar gyfer tymor 2025/26.

Image
Logo Huws Gray
Logo cwmni Huws Gray ar git dyfarnwr pêl-droed

'Carreg filltir bwysig'

Mewn datganiad, dywedodd cwmni Huws Gray bod y bartneriaeth yn nodi "carreg filltir bwysig".

Fe wnaeth y cwmni ddechrau gydag un gangen ar Ynys Môn yn 1990, ond maen nhw bellach wedi tyfu i fod yn un o brif gwmnïau nwyddau adeiladu'r DU.

Mae'r cwmni o Gaerwen yn cyflogi 5,000 o aelodau o staff ac yn berchen ar 370 o ganghennau ledled y wlad.

"Mae’r bartneriaeth hon wedi’i hadeiladu ar werthoedd cyffredin o degwch, uniondeb, arbenigedd a phroffesiynoldeb - egwyddorion sy’n bwysig ym myd pêl-droed ac yn y diwydiant adeiladu," meddai Daksh Gupta, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Huws Gray.

"Gyda dros 83% o’n cwsmeriaid yn dilyn pêl-droed, mae’r nawdd yma yn caniatáu i ni ymgysylltu â chwsmeriaid newydd a phresennol mewn ffordd bwerus a niwtral, gan gefnogi’r gêm rydyn ni i gyd yn ei charu, heb ddewis ochr.

"Rydyn ni’n arbennig o falch bod y bartneriaeth hon yn cwmpasu cystadlaethau dynion a menywod, gan gyd-fynd â’n hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn ein busnes a’r sector adeiladu ehangach."

Lluniau: Sportfive

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.