Rhybudd i yrwyr ar drothwy Gŵyl y Banc prysur
Mae rhybudd i yrwyr am oedi ar y ffyrdd ar drothwy Gŵyl y Banc, gan fod disgwyl i 17.6 miliwn o deithiau ceir ddigwydd yn y DU dros y penwythnos i sydd i ddod.
Mae cymdeithas foduro'r RAC yn annog gyrwyr i gychwyn ar eu taith cyn gynted â phosib neu “fod yn barod i dreulio mwy o amser mewn traffig”.
Mae disgwyl tua 3 miliwn o deithiau mewn ceir ar gyfer gwyliau neu dripiau undydd ar ddydd Gwener gan yrwyr sydd am fanteisio ar y penwythnos hir olaf cyn y Nadolig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, meddai’r RAC.
Bydd hyn yn codi i 3.4 miliwn taith ddydd Sadwrn, 2.4 miliwn ddydd Sul a 2.7 miliwn ddydd Llun.
Dywedodd arweinydd tîm gwasanaethu ac atgyweirio cerbydau symudol yr RAC, Nick Mullender: “Gyda’r Gŵyl y Banc yma yn gyfle olaf i fwynhau penwythnos hir cyn y Nadolig, mae ein hastudiaeth yn dangos awydd gwirioneddol i deithio gyda bron i 18 miliwn o yrwyr yn cynllunio teithiau i ffwrdd.
“Bydd mwy o draffig ar y ffyrdd yn arwain at fwy o broblemau gyda cherbydau'n torri i lawr, yn enwedig os bydd yr haul yn ymddangos a phobl yn penderfynu ar y diwrnod i ymweld â chyrchfannau poblogaidd."