Criwiau yn ceisio rheoli tân ger un o brif ffyrdd y Cymoedd ers tridiau

Tân gwyllt Ffordd Blaenau'r Cymoedd

Ers tridiau mae Gwasanaeth Tân y De wedi bod yn ceisio rheoli tân  ger un o brif ffyrdd y Cymoedd.

Dywedodd un o benaethiaid y gwasanaeth ei fod yn credu bod y tân gwyllt ger Ffordd Blaenau'r Cymoedd, rhwng Y Fenni a Thredegar wedi ei gynnau'n fwriadol.

"Ers 13:00 ddydd Sadwrn rydym wedi bod yn ymateb i dân gwyllt sylweddol rhwng Tredegar a'r Fenni, yr ydym yn credu sydd wedi ei gynnau'n fwriadol," meddai Matt Jones, Pennaeth Gweithrediadau'r Gwasanaeth.

"Mae'n parhau i losgi ac mae'r amodau yn rhai heriol a chymhleth i'n criwiau.

“Mae ein diffoddwyr tân wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers ddydd Sadwrn ar dir anodd i warchod cartrefi, bywoliaeth a da byw.

"Mae cynnau tanau yn fwriadol yn peryglu bywydau ein diffoddwyr tân, diogelwch ein cymunedau a’r amgylchedd yn ddiangen."

Wrth i'r tân barhau i losgi mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gofyn i bobl i gadw eu drysau a ffenestri ar gau.

483%

Roedd cynnydd o 483% mewn tanau gwyllt yn ne Cymru rhwng Ionawr a Mai 2025 o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw wedi cael eu galw i 928 o danau gwyllt mewn cyfnod o bum mis. 

Mae hynny 769 yn fwy na'r un cyfnod yn 2024. 

Yn ôl y gwasanaeth tân, mae'r cynnydd sylweddol wedi rhoi pwysau mawr ar griwiau a thimau cymorth.

Ychwanegodd Matt Jones: “Mae eleni eisoes wedi bod yn heriol dros ben.

"Mae maint y tanau gwyllt a pha mor aml maent yn digwydd, wedi bod yn straen ar ein hadnoddau a’n pobl. 

"Ond diolch i ymrwymiad a phroffesiynoldeb ein criwiau a staff yr ystafell reoli, rydym wedi ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i amddiffyn ein cymunedau."

Ychwanegodd: "Mae’r cynnydd mewn digwyddiadau wedi tywydd cynnes a sych yn gynnar yn y gwanwyn.

"Digwyddodd llawer o'r digwyddiadau ar dir comin, llethrau, a mannau coediog, llefydd sy'n aml yn anodd eu cyrraedd ac yn beryglus i fynd i'r afael â nhw."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.