Maxine Hughes yn 'teimlo'r genedl gyfan tu ôl i fi' wrth gael llawdriniaeth mastectomi ddwbl
Mae'r newyddiadurwraig Maxine Hughes wedi dweud iddi deimlo cefnogaeth pobl Cymru cyn iddi gael llawdriniaeth mastectomi ddwbl er mwyn trin canser y fron.
Ar y cyfrwng cymdeithasol Instagram mae'n dweud bod y llawdriniaeth bellach wedi digwydd.
Fe gafodd hi wybod ym mis Ionawr bod canser y fron arni.
Roedd Maxine, sydd yn byw yn Washington DC ond yn dod o Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud y llawdriniaeth ymlaen i'r wythnos yma am ei bod hi'n cael ei hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.
Mae'n dweud ei bod yn "teimlo'n flinedig ond yn rhyddhad" wedi'r llawdriniaeth.
"Dywed y meddygon ei fod wedi mynd yn dda," meddai.
"Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn heriol, ond yr wythnos diwethaf yn Wrecsam oedd un o wythnosau gorau fy mywyd.
"Roedd yr eisteddfod yn bendigedig. Roedd cymaint o bobl yn dymuno’r gorau i fi, yn siarad i fi, ac yn rhannu eu storiau eu hunain gyda fi."
'Diolchgar'
Fe wnaeth Maxine deimlo lwmp yn ei bron ychydig ar ôl y Nadolig.
Cafodd wybod ym mis Ionawr y newyddion ei fod yn fath o ganser "rili aggressive oedd o, y triple negative ma," meddai wrth Newyddion S4C.
Mae canser o'r math yma'n un llawer mwy prin na chanser y fron arferol.
Tua 10-20% o bob diagnosis canser y fron yw'r math yma, ac mae'n anoddach i'w drin.
Ar ei chyfrif Instagram mae'n dweud bod gwybod bod nifer yn meddwl amdani yn ôl yng Nghymru wedi bod yn hwb mawr.
"Bore ma wrth i mi fynd lawr i’r llawdriniaeth roeddwn i’n teimlo fel pe bai’r genedl gyfan tu ol i fi.
"Dwi mor ddiolchgar ac yn teimlo cymaint o gariad at bobl Cymru. Diolch am eich cefnogaeth, mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth."
Yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi cael cemotherapi ac imiwnotherapi.
Bydd Maxine yn parhau gyda imiwnotherapi am chwe mis arall wedi'r llawdriniaeth.