Diwrnod poethaf y flwyddyn yng Nghymru hyd yma ddydd Mawrth?

12/08/2025
Siopwyr Caerdydd

Fe allai Cymru brofi diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yma gyda'r tymheredd yn codi i dros 30C mewn rhai llefydd ddydd Mawrth.

Mae rhagolygon y Swyddfa Dywydd yn dangos y gallai'r tymheredd godi wrth i'r don wres gyrraedd ei huchafbwynt.

Y tymheredd uchaf sydd wedi ei recordio yng Nghymru eleni hyd yn hyn yw 33.1C yng Nghaerdydd ar 12 Gorffennaf.

Yn ôl y rhagolygon diweddaraf fe allai'r tymheredd yn y brifddinas a Threfynwy gyrraedd dros 30C ddydd Mawrth.

Y don wres bresennol yw'r pedwerydd yr haf hwn, ac mae disgwyl i'r tywydd braf barhau tan ddiwedd yr wythnos.

Y tymheredd arferol ar gyfer y DU adeg yma'r flwyddyn yw rhwng 18 a 22C, meddai'r Swyddfa Dywydd.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod newid hinsawdd yn golygu mwy o dywydd eithafol yn y DU, gan gynnwys tonnau gwres amlach. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.