'Diwedd perffaith, heddychlon': Tad Gethin Jones wedi marw ar ôl cyfnod o salwch

Llun: Instagram / Gethin Jones
Gethin Jones a'i dad

Mae'r cyflwynydd teledu Gethin Jones wedi rhoi teyrnged i'w dad wedi iddo farw ddydd Llun ar ôl cyfnod o salwch.

Mewn neges ar ei gyfrif Instagram dywedodd fod ei dad, Goronwy Jones wedi bod yn "sâl am gyfnod".

"Roedd hi'n braf gweld ei hiwmor sych, pwysigrwydd ei ffydd a'i gariad tuag at gerddoriaeth glasurol yn dod i'r amlwg ar y diwedd," meddai.

Ychwanegodd Gethin Jones bod ei dad, a oedd yn athro am flynyddoedd wedi cael "effaith fawr ar addysg".  

"Bob dydd oeddwn i yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, fe fyddai rhywun yn fy stopio ac yn gofyn am dad," meddai.

"Mae'n siŵr ei fod wedi ei dysgu nhw ar ryw bwynt. Fe gafodd e effaith fawr ar addysg yn yr ardal yma dros gyfnod hir o amser. 

"Roedd e'n llym ac uniongyrchol ond wastad yn rhesymol. Athro am 40 mlynedd, prifathro am 28!"

Yn ei neges mae'n diolch i'r gwasanaeth iechyd am ei gofal ac i'w chwaer. Mae'n sôn am oriau olaf ei dad.

" 'Wales defeated England' (y lein enwog gan Max Boyce)-Hymns and Arias gyda dad neithiwr, cyn iddo ein gadael ni bore ma. Y diwedd mwyaf perffaith, heddychlon. Emynau Cymru yn chwarae a'r wyrion ar y seinydd ffôn yn dweud hwyl fawr."

Mae'n dweud ei bod hi wedi bod yn "wythnos anodd. Ond yn lwcus mewn cymaint o ffyrdd." 

Mae'n gorffen ei neges gyda'r ddihareb 'Amynedd Yw Amod Llwyddo'. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.