Kayleigh Barton yn ymddeol o chwarae pêl-droed
Mae ymosodwr Cymru Kayleigh Barton wedi cyhoeddi ei bod hi'n ymddeol o chwarae pêl-droed.
Cynrychiolodd ei gwlad 89 o weithiau, gan sgorio 22 o goliau mewn gyrfa dros 13 o flynyddoedd.
Fe fydd Barton yn dechrau swydd fel hyfforddwr cynorthwyol gyda thîm dan 17 menywod Cymru wedi ei hymddeoliad.
Dywedodd Barton ei bod hi'n "falch iawn" o'i gyrfa, o chwarae dros ei dinas enedigol yng Nghaerdydd i gynrychioli Cymru yn yr Euros.
"I bawb sydd wedi bod ar y daith anhygoel hon drwy bêl-droed gyda mi, rwy'n credu ei bod hi'n bryd dweud wrthych fy mod wedi gwneud y penderfyniad i ymddeol," meddai.
"Ers pan oeddwn yn ifanc, rwyf wedi caru pêl-droed.
"O chwarae yn yr ardd gyda fy mrodyr iau, chwarae i dimoedd iau Cymru a chynrychioli'r tîm hŷn yn ein prif gystadleuaeth fawr gyntaf erioed.
"Rwyf wedi cael gyrfa bêl-droed ryfeddol yn cynrychioli fy ngwlad ac ar lefel clwb, ac mae'n rhywbeth rwy'n falch iawn ohono."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1955248211477602510
Ychwanegodd: "Drwy gydol fy ngyrfa, mae'r Wal Goch wedi ein cefnogi, ac rydych chi i gyd wedi bod yn rhyfeddol."
"Weithiau rydych chi hyd yn oed yn uwch na'r cefnogwyr cartref eu hunain! Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n parhau i gefnogi'r tîm trwy bob dim, a byddaf i yn y dorf gyda chi yn gwneud yr un peth."
O'r amddiffyn i ymosod
Yn ystod ei gyrfa gyda Chymru, chwaraeodd Barton o dan y prif hyfforddwyr Jarmo Matikainen, Jayne Ludlow, Gemma Grainger a Rhian Wilkinson.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn 2012 fel amddiffynwraig, ond symudodd i'r safle ymosod o dan arweiniad Jayne Ludlow.
Sgoriodd ei gôl gyntaf yn erbyn y Ffindir yn 2016, ac fe ddaeth ei gôl olaf yn erbyn Sweden ym mis Chwefror eleni.
Chwaraeodd i glybiau Caerdydd, Yeovil, SSD Chieti FC 1922 yn yr Eidal, Brighton a Charlton Athletic.
Fe wnaeth hi chwarae ym mhob un o gemau Cymru yn Euro 2025.