Y Gweilch i chwarae ym Mhen-y-bont cyn gwneud Sain Helen yn gartref hirdymor
Y Gweilch i chwarae ym Mhen-y-bont cyn gwneud Sain Helen yn gartref hirdymor
Mae rhanbarth rygbi’r Gweilch wedi arwyddo cytundeb ffurfiol i fabwysiadu maes Sain Helen yn Abertawe fel cartref newydd hir dymor y clwb.
Ar ôl cael caniatâd cynllunio gan Gyngor Abertawe, fe fydd gwaith i ailddatblygu’r stadiwm yn dechrau yno fis Medi.
Yn wreiddiol, roedd y Gweilch yn gobeithio y byddent yn chwarae eu gemau yno o fis Rhagfyr.
Ond wrth gyhoeddi’r cytundeb prydles ar faes Sain Helen ddydd Mawrth, cadarnhaodd y clwb na fyddant yn chwarae yno tan y tymor nesaf bellach.
A bydd y tîm yn chwarae eu gemau'r tymor hwn yng Nghae’r Bragdy, cartref Clwb Rygbi Pen-y-bont.
Yn ôl y Gweilch, mae cynlluniau i godi eisteddle newydd wedi achosi oedi yn y broses o symud i’r stadiwm yn Abertawe.
Inline Tweet: https://twitter.com/ospreys/status/1955233860951671024
Dywedodd Lance Bradley, Prif Weithredwr y rhanbarth: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dod i gytundeb i gwblhau prydles ar gyfer Sain Helen ac yn edrych ymlaen at weld yr ailddatblygiad yn dechrau.
“Mae hyn yn nodi carreg filltir bwysig arall wrth i ni weithio i drawsnewid y stadiwm eiconig yn gyfleuster chwaraeon modern, un a fydd yn gwasanaethu nid yn unig y Gweilch, ond hefyd Clwb Rygbi Abertawe, Prifysgol Abertawe, a’r gymuned ehangach.
“Er ein bod wedi gobeithio cael Sain Helen yn barod ar gyfer y tymor hwn, roedd y cynlluniau arfaethedig ar gyfer eisteddle de parhaol, a ddaeth yn ddiweddarach yn ein proses gynllunio, yn golygu nad oedd yr amseru’n ymarferol.
“Oherwydd ein bod am ddarparu’r profiad gorau posibl o’r diwrnod cyntaf, rydym wedi penderfynu chwarae un tymor ym Maes y Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr tra ein bod yn cael San Helen i’r safonau y mae’r Gweilch a’n cefnogwyr yn eu disgwyl.”
Ansicrwydd dyfodol y rhanbarthau
Yn ogystal ag adeiladu’r eisteddle de newydd, fe fydd y clwb yn adeiladu to dros y teras, yn symud y cae a’i wneud yn un 3G, ailwampio’r tŷ clwb ac adeiladu parth i’r cefnogwyr.
Fe fydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar ddiwedd y tymor criced, gyda Chlwb Criced Abertawe yn symud i gartref newydd y tymor nesaf.
Daw’r cyhoeddiad wedi i rai gwleidyddion yng ngorllewin Cymru fynegi pryder ynglŷn ag effaith datblygu stadiwm rygbi newydd, a hynny tua 10 milltir o Barc y Scarlets yn Llanelli.
Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cyhoeddi yn gynharach yn y mis y bydd yn ystyried torri nifer y rhanbarthau o bedwar, i ddau neu dri, gyda'r penderfyniad yn cael ei wneud yn gyhoeddus fis Hydref.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Gweilch ac rydym yn deall ac yn parchu eu penderfyniad yn llawn. Mae'n golygu y gallant, fel busnes, gynllunio eu tymor 2025-26 yn effeithlon ac yn broffesiynol.
“Rydym yn falch mai eu cynllun hirdymor yw datblygu ein maes hanesyddol yn Sain Helen.
“Mae'r cynlluniau ar gyfer datblygu'r maes - gan gynnwys rhai amodau - yn parhau heb eu newid.”