Arestio dros 350 o bobl mewn protest yn Llundain i gefnogi Palestine Action
Mae'r heddlu wedi arestio 365 o brotestwyr yn Llundain am ddangos eu cefnogaeth i Palestine Action.
Mae'r mudiad wedi ei wahardd gan ei fod wedi ei ddiffinio fel grŵp terfysgol yn ddiweddar.
Dywedodd Defend Our Juries, a drefnodd y brotest, fod rhwng 600 a 700 o bobl yn Sgwâr y Senedd brynhawn Sadwrn.
Dywedodd Heddlu'r Met y byddai swyddogion yn arestio unrhyw un oedd yn lleisio eu cefnogaeth i Palestine Action.
Mae aelodaeth o, neu gefnogaeth i, Palestine Action yn drosedd y gellir ei chosbi gyda hyd at 14 mlynedd yn y carchar o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000.
Yn gynharach yr wythnos hon, enwyd y tri pherson cyntaf i gael eu cyhuddo o gefnogi Palestine Action yng Nghymru a Lloegr.
Mae Jeremy Shippam, 71 oed, Judit Murray, 71 oed, a Fiona Maclean, 53 oed, i gyd wedi cael eu cyhuddo o arddangos erthygl mewn man cyhoeddus, gan godi amheuaeth resymol eu bod yn gefnogwr i sefydliad gwaharddedig ar ôl iddynt fynychu protest flaenorol y mis diwethaf.
Mae cannoedd wedi cael eu harestio mewn protestiadau ledled y DU ers i'r gwaharddiad gael ei weithredu gan yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper y mis diwethaf.
Llun: PA