
Darganfod achos posib o ffliw adar ym Môn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod cyfyngiadau mewn grym ar ran o Ynys Môn wedi i achos posib o ffliw adar gael ei ddarganfod yno.
Mae parth rheoli 1km dros dro wedi ei osod o amgylch y lleoliad ger Dulas ar yr ynys.
Mewn datganiad nos Iau, dywedodd y llywodraeth na chaiff neb symud dofednod, "adar caeth eraill na mamaliaid" o neu i safle o fewn y parth, oni bai bod y symudiad wedi'i drwyddedu gan arolygydd milfeddygol.
Fe fydd yn rhaid i unrhyw un sydd yn mynd i mewn i'r parth rheoli gymryd mesurau bioddiogelwch y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol i leihau'r risg o ledaenu ffliw adar.
Ym mis Mehefin bu'n rhaid difa adar ar ddwy fferm yn Sir Benfro ar ôl i achosion o ffliw adar gael eu darganfod yno.

Beth yw ffliw adar?
Math o firws yw ffliw adar sy'n effeithio ar ddofednod ac adar gwyllt.
Mae yna nifer o fathau gwahanol o ffliw adar ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn heintio pobl.
Ond mae pedwar straen wedi achosi pryder yn ystod y blynyddoedd diwethaf: H5N1 (ers 1997), H7N9 (ers 2013), H5N6 (ers 2014) a H5N8 (ers 2016).