Cau'r A55 a rhybudd am 'oedi hir' wedi damwain
Mae'r A55 ar gau i'r ddau gyfeiriad yn Sir y Fflint wedi gwrthdrawiad, gyda rhybudd i deithwyr ddisgwyl "oedi hir" bnawn Sadwrn.
Mae'r ffordd ar gau rhwng Cyffordd 31 ger Caerwys a Chyffordd 32 am Dreffynnon, gyda gwasanaeth Traffig Cymru'n dweud bod y gwasanaethau brys wedi ymateb i'r digwyddiad.
Ar hyn o bryd mae teithwyr yn cael eu dargyfeirio ar hyd ffyrdd lleol eraill ond mae disgwyl yn gall yr oedi bara am beth amser.
Llun: Traffig Cymru