Eisteddfod Wrecsam wedi llwyddo i ddenu 'llawer' o siaradwyr di-Gymraeg

Eisteddfod Wrecsam wedi llwyddo i ddenu 'llawer' o siaradwyr di-Gymraeg

Wrth i wythnos o gystadlu ddirwyn i ben yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn dweud bod pobl leol wedi bod “wrth eu boddau” gyda'r digwyddiad, gan gynnwys y di-Gymraeg. 

Dywedodd Llinos Roberts ei bod hi wedi gweld “llawer iawn” o bobl yn ymwneud â’r iaith a’r diwylliant yn ystod y cyfnod cyn y Brifwyl ac wrth grwydro’r Maes eleni. 

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd: “Dwi ‘di gweld llawer iawn ohonyn nhw, pobl ’da ni ‘di siarad efo dros y dwy flynedd diwetha’ ar y Maes, yn ystod y dydd, gyda’r nos i gyd yn mwynhau eu hunain.

“Falle ddim yn siaradwyr Cymraeg rhugl ond wedi dod i fwynhau’r Gymraeg ac i fwynhau’r diwylliant, ac wrth eu boddau ‘fo’r ‘Steddfod. 

“Felly gobeithio os ‘di’r ‘Steddfod yn dod ’nôl ‘ma eto fyddan nhw’n gwybod mwy amdani.” 

'Hyrwyddo'r ardal'

Mae Ms Roberts yn cydnabod na fyddai’r mwyafrif yn awyddus i glywed gormodedd o Saesneg ar y Maes.

Ond mae’n ei gweld hi’n gadarnhaol bod cyn nifer o bobl sydd ddim yn siaradwyr Cymraeg rhugl wedi bod mor awyddus i gymryd rhan yn y dathliadau – a’u bod nhw wedi cael eu derbyn gan Eisteddfodwyr.  

“‘Di rhywun ddim isho clywed llawer iawn o Saesneg wrth gerdded rownd Maes y ‘Steddfod,” meddai. 

“Ond mae’n braf gweld bod ‘na bobl falle sydd ddim wedi trwytho yn yr iaith ac yn y diwylliant yn dod i’r ‘Steddfod.

“Dwi’n gwbo’ bo’ llawer ohonyn nhw’n deud bo’ nhw’n teimlo bo’ nhw ‘di cael eu cynnwys ym mhob dim, ti’mod er bo’ nhw falle ddim yn siarad Cymraeg ac wrth eu boddau, felly mae ‘di bod yn bleser mawr i mi.

“Gwaddol fydd i ni barhau, fyddwn yn parhau i drefnu gweithgareddau, parhau i godi ymwybyddiaeth a parhau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn yr ardal yma.”

Dydd Sadwrn fydd diwrnod olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.

Fe fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal yn Llantwd, Sir Benfro rhwng 1-8 Awst y flwyddyn nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.