Trump a Putin i gyfarfod yn Alaska i drafod y rhyfel yn Wcráin
Bydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump ac Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn cyfarfod yn Alaska ddydd Gwener nesaf.
Mae disgwyl i'r ddau arlywydd drafod y rhyfel yn Wcráin, gan ganolbwyntio'n benodol ar sut i ddod â'r rhyfel yno i ben.
Dywedodd yr Arlywydd Volodymyr Zelensky fod yn rhaid i unrhyw atebion gynnwys Wcráin, gan ychwanegu ei fod yn barod i gydweithio at "heddwch parhaol".
Daeth y cyhoeddiad am y cyfarfod ychydig oriau ar ôl i'r Arlywydd Trump awgrymu y byddai'n rhaid i'r Wcráin ildio tiriogaeth o bosib er mwyn dod â'r rhyfel i ben.
Fe wnaeth y rhyfel ddechrau ym mis Chwefror 2022 ar ôl i Rwsia ymosod ar ei chymydog.
"Rydych chi'n edrych ar diriogaeth sydd wedi cael ei hymladd drosti am dair blynedd a hanner, mae nifer o Rwsiaid wedi marw. Mae nifer o Wcrainiaid wedi marw," meddai'r Arlywydd Trump yn y Tŷ Gwyn ddydd Gwener.
"Mae'n gymhleth iawn. Rydyn ni'n mynd i gael rhywfaint yn ôl, rydyn ni'n mynd i gael rhywfaint wedi'i gyfnewid.
"Bydd rhywfaint o gyfnewid tiriogaethau, er lles y ddau."
Ni wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau roi unrhyw fanylion pellach am y cynnig hwnnw.
Dyma'r cyfarfod cyntaf rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia ers 2021, pan wnaeth cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden gwrdd â Mr Putin yn y Swistir.
Mewn datganiad ar Truth Social, dywedodd Mr Trump: "Bydd y cyfarfod hir-ddisgwyliedig rhyngof fi, fel Arlywydd yr Unol Daleithiau a'r Arlywydd Vladimir Putin, o Rwsia, yn digwydd ddydd Gwener nesaf, 15 Awst 2025, yn Nhalaith Fawr Alaska. Manylion pellach i ddilyn. Diolch am eich sylw i'r mater hwn!"
Fe gafodd y cyfarfod hefyd ei gadarnhau gan gynorthwyydd y Kremlin, Yury Ushakov, a ddywedodd y byddai'r arweinwyr yn "canolbwyntio ar drafod opsiynau ar gyfer cyflawni datrysiad heddychlon hirdymor i argyfwng Wcráin".
Ychwanegodd y gallai'r ddau arlywydd gyfarfod yn Rwsia yn y dyfodol.