Cyhuddo pedwar dyn o'r Rhyl mewn ymchwiliad i gam-fanteisio rhywiol ar blant
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i droseddau cam-fanteisio rhywiol ar blant yn ardal Sir Ddinbych wedi cyhuddo pedwar o ddynion.
Dywed Heddlu'r Gogledd bod y troseddau honedig wedi digwydd yn ardaloedd y Rhyl a Llundain rhwng 2022 a 2024 ac yn ymwneud â thair o ferched.
Mae'r unigolion, rhwng 24 a 60 oed, yn wynebu nifer o gyhuddiadau sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad.
Mae Mustafa Iqbal, 42, o Ffordd Trellewelyn, Y Rhyl, wedi'i gyhuddo o dri chyfrif o dreisio, tri chyfrif o ymosodiad rhywiol, tri chyfrif o annog plentyn o dan 16 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, chwe throsedd o dan Adran 1 a 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B, meddu ar ddryll, a thorri Gorchymyn Risg Caethwasiaeth a Masnachu.
Mae Mohammad Usman Arshad, 35, o Clifton Grove, Y Rhyl, wedi'i gyhuddo o dreisio, pedwar trosedd o dan Adran 1 a 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Mae Ziaullah Badsha, 24, o Ffordd Brighton, Y Rhyl, wedi'i gyhuddo o ddau gyfrif o dreisio, pedwar trosedd o dan Adran 1 a 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Mae Jaswinder Singh, 60 oed, o Stryd yr Afon, Y Rhyl, wedi’i gyhuddo o ddau drosedd o dan Adran 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Rich Sidney o Heddlu Gogledd Cymru: “Ein blaenoriaeth bob amser yw amddiffyn a chefnogi dioddefwyr, ac nid yw’r ymchwiliad hwn yn eithriad.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi profi cam-drin—neu sy’n pryderu am rywun a allai fod yn dioddef—i ddod ymlaen. Bydd rhywun yn gwrando arnoch, bydd eich adroddiad yn cael ei ymchwilio, a byddwn yn sicrhau bod gennych fynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth a hir. Rydym wedi cysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron drwy gydol y broses ac mae’r cydweithrediad hwn wedi arwain at gael yr awdurdod i gyhuddo’r rhai a ddrwgdybir o droseddau difrifol.
“Byddem nawr yn gofyn i bobl barchu’r broses farnwrol ac osgoi dyfalu ar-lein ar yr achos hwn. Mae hyn er mwyn sicrhau cywirdeb yr ymchwiliad a’r achos llys.”