Nic Parry a Malcolm Allen i sylwebu ar gêm Wrecsam o'r Eisteddfod
Bydd Nic Parry a Malcolm Allen yn sylwebu ar gêm Wrecsam yn fyw o Lwyfan y Maes ddydd Sadwrn.
Bydd Wrecsam yn chwarae Southampton oddi cartref am 12.30 yn eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth ers ennill dyrchafiad o Adran Un y llynedd.
Fe fydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar y sgrin fawr ar Lwyfan y Maes a bydd Nic Parry, Llywydd newydd Llys yr Eisteddfod, a Malcolm Allen yn cynnig sylwebaeth Gymraeg yn fyw oddi yno.
Dywedodd Nic Parry mewn cyfweliad gyda'r BBC: “Fydd pawb eisiau ei gweld hi. Mae’r Steddfod am ei dangos hi.
“Dyna sydd ar dafod pawb. A’r gobaith yw y byddwn ni’n cadw pobl ar y Maes.
“Maen nhw wedi gofyn i fi sylwebu - ac felly dwi di ffonio aelod arall o’r Orsedd, Malcolm Allen i ddod ataf fi, a falle gawn ni chydig o hwyl.”
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, eu bod nhw wedi cael yr hawl i ddangos y gêm ar yr amod nad oedden nhw’n ei hyrwyddo y tu hwnt i’r Maes.
“Yr hyn ydan ni’n ei ychwanegu yw'r elfen fyw felly bydd Malcolm Allen a Nic Parry yn sylwebu yn fyw ar y Llwyfan, sy’n hyfryd iawn,” meddai.