Darganfod dros 500 o deganau Labubu ffug ar werth yn y Sioe Frenhinol
Cafodd dros 500 o deganau Labubu ffug eu darganfod ar werth ar stondinau yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni, yn ôl Cyngor Sir Powys.
Cafodd y teganau ffug eu cadw gan Wasanaeth Safonau Masnach y cyngor, a oedd yn cynnal archwiliadau i sicrhau bod y cynnyrch oedd ar werth yn y Sioe yn Llanelwedd yn bodloni safonau diogelwch.
Mae teganau Labubu yn ffigyrau sy’n cael eu creu gan y gwneuthurwr teganau o Tsieina, Pop Mart, ac sy’n hynod boblogaidd ymhlith pobl ifanc ac ar gyfryngau cymdeithasol fel TikTok.
Ond mae poblogrwydd y teganau hefyd wedi arwain at gynnydd mewn fersiynau ffug peryglus, gyda sawl cyngor yng Nghymru yn rhybuddio cwsmeriaid ynglŷn â’r risgiau i blant ifanc.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: “Mae ein harolygiadau rhagweithiol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn helpu i amddiffyn y cyhoedd rhag nwyddau anniogel neu ffug, cefnogi busnesau cyfreithlon, a chodi ymwybyddiaeth am ddiogelwch defnyddwyr.
"Mae'r teganau ffug hyn yn peri risgiau difrifol i blant. Gall rhannau bach, fel llygaid a dwylo, ddatgysylltu a dod yn beryglon tagu.
“Gall rhai hefyd gynnwys cemegau gwaharddedig sy’n niweidiol i iechyd. Rhaid i ddiogelwch ein plant ddod yn gyntaf bob amser.
"Rydym yn annog rhieni a chasglwyr i fod yn wyliadwrus wrth brynu’r teganau hyn.
“Os gwnaethoch chi brynu un yn Sioe Frenhinol Cymru – neu yn rhywle arall – gwiriwch ef yn ofalus.”
Sut i Adnabod Labubu Ffug
Mae’r cyngor wedi rhannu canllaw ynglŷn â sut i adnabod Labubu ffug - neu Lafufu, fel maent yn cael eu hadnabod:
- Pecynnu – Daw teganau Labubu dilys mewn blwch gyda gorffeniad matte a gwead llyfn.
- Cod QR – Mae teganau dilys yn cynnwys cod QR sy’n cysylltu â gwefan Pop Mart. Ar label y cynnyrch, dylai ail god QR eich cyfeirio at fwsy.popmart.com. Os yw’n arwain i rywle arall, mae’n debyg ei fod yn ffug
- Nodweddion – Mae gan Labubus go iawn glustiau sy'n pwyntio ychydig i mewn, naw dant, llygaid agored llachar, ac wynebau lliw eirin gwlanog golau
- Ansawdd – Mae gan deganau dilys ffwr meddal a phwythau di-dor
- Stamp Troed – Chwiliwch am logo Pop Mart ar y droed dde. Mae gan fodelau mwy newydd stamp UV gweladwy ar y droed chwith hefyd. Efallai nad oes gan rai ffug y rhain neu eu bod yn eu harddangos yn rhy amlwg.
- Marc UKCA/CE – Dylai'r marc hwn ymddangos ar y tegan neu ei becynnu, ynghyd ag enw mewnforiwr yn y DU. Fodd bynnag, nid yw hyn ar ei ben ei hun yn ddigon—defnyddiwch y gwiriadau eraill hefyd.