Pryderon am 'fflatiau cyd-fyw' newydd yng Nghaerdydd

fflatiau penarth road

Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi codi pryderon ynghylch maint fflatiau newydd sydd wedi eu cynllunio ar gyfer eu hadeiladu yng Nghaerdydd.

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo'r cynlluniau fis diwethaf ar gyfer adeiladu'r math cyntaf o 'fflatiau cyd-fyw' yn ardal Heol Penarth o'r ddinas.

Ond mae Cymdeithas Ddinesig Caerdydd yn bryderus fod y penderfyniad yma yn gosod cynsail ar gyfer y math yma o gartrefi, sydd gyda'r cartrefi lleiaf yn mesur 216.3 troedfedd sgwâr (20.1 metr sgwâr) o ran maint.

Mae 'fflatiau cyd-fyw' yn fodel byw sy'n cyfuno gofod byw preifat gydag ardaloedd cymunedol, sydd yn cael eu rhannu gyda chymdogion.  

Dywedodd yr awdurdod lleol fod tai cyd-fyw yn dod yn "fwy cyffredin" yn y DU, gan ychwanegu eu bod yn parhau i fod "wedi ymrwymo i greu lleoedd cynhwysol, cynaliadwy, ac wedi'u cynllunio'n dda".

Image
cynllun

Mae cynlluniau o'r math yma yn dilyn ôl traed dinasoedd mawr eraill yn y DU fel Llundain a Manceinion, sydd eisoes yn defnyddio cynlluniau cyd-fyw. Gan gyfuno lle byw preifat ag ardaloedd cymunedol, nid ydynt yn annhebyg i fflatiau stiwdio, ond mae'r lleoedd byw preifat fel arfer yn llai.

Mae gan Gyngor Caerdydd ganllawiau cynllunio eisoes ar waith sy'n nodi y dylai isafswm maint ar gyfer fflatiau stiwdio fod yn 322 troedfedd sgwâr (30 metr sgwâr). Bydd lleoedd byw preifat unigol mewn fflatiau cyd-fyw yn mesur rhwng 216.3 troedfedd sgwâr (20.1 metr sgwâr) a 321.8 troedfedd sgwâr (29.9 metr sgwâr), ac fe fydd 182 o fflatiau'n cael eu hadeiladu ar draws dau floc ar safle Asset House ar Heol Penarth.

Ond mae Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, sydd eisoes yn ymgyrchu ar faterion gan gynnwys diogelu lleoedd gwyrdd a dylunio datblygiadau newydd yn y ddinas, wedi cwestiynu beth allai cymeradwyo'r cartrefi ei olygu i'r ddinas yn y dyfodol.

Mae'r gymdeithas wedi cymharu'r cartrefi â "HMOs uchel (houses of multipal occupancy) " -sef  tai mewn amlfeddiannaeth, neu dai rhannu.

Mewn llythyr at Gyngor Caerdydd, mae'r elusen yn honni fod y datblygiad yn is na safonau Llundain sy'n dadlau dros unedau cyd-fyw sydd rhwng 236.8 troedfedd sgwâr (22 metr sgwâr) a 290.6 troedfedd sgwâr (27 metr sgwâr) o ran maint, medden nhw.

"Mae'r adroddiad yn cydnabod nad yw'r dyluniad yn bodloni'r safonau disgwyliedig mewn meysydd fel golau dydd neu edrych drosodd, ond mae'n dadlau y dylid ei gymeradwyo o hyd.

"Mae'n destun pryder bod hyn yn cael ei ystyried yn dderbyniol ar gyfer adeilad pwrpasol newydd," ychwanegodd y llythyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae cyd-fyw yn fath newydd o gartrefi sy'n dod yn fwy cyffredin mewn dinasoedd yn y DU.

"Fel arfer mae'r cartrefi yn cynnig ystafelloedd preifat gyda mannau cymunedol a rennir ac mae'n aml wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol ifanc sy'n chwilio am fyw hyblyg, arddull gymunedol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.