Ffioedd dysgu myfyrwyr yng Nghymru yn codi i £9,535
Bydd uchafswm ffioedd dysgu myfyrwyr prifysgolion yng Nghymru yn codi i £9,535 o ddydd Gwener ymlaen, yng ngwyneb cyfnod hynod o heriol i sefydliadau addysg uwch ar hyd a lled y wlad.
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn Llywodraeth Cymru y byddai'r ffioedd i israddedigion yn cynyddu o £9,250 i £9,535 o fis Awst, a hynny yn dilyn yr un penderfyniad gan Lywodraeth San Steffan ar gyfer myfyrwyr yn Lloegr ychydig cyn hynny.
Bydd y newid i ffioedd dysgu yn berthnasol i unrhyw fyfyriwr cymwys sy'n astudio yng Nghymru, nid dim ond i fyfyrwyr o Gymru.
Wrth gyhoeddi'r cynnydd ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru na ddylai'r cynnydd mewn ffioedd "ddarbwyllo unrhyw un o Gymru sy'n ystyried gwneud cais am brifysgol y flwyddyn nesaf i beidio â gwneud hynny."
Ni fydd y cynnydd mewn ffioedd yn golygu cynnydd yn y costau prifysgol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw meddai'r llywodraeth.
Toriadau
Mae'r cynnydd yn y ffioedd yn dod mewn cyfnod pan fod prifysgolion Cymru wedi wynebu toriadau sylweddol i gyllidebau, gyda diswyddiadau gorfodol mewn sawl sefydliad.
Yn ôl undeb llafur Unsain, dyw cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fis Chwefror am gyfrannu £18.5 miliwn i brifysgolion "ddim yn ddigon o bell ffordd" gyda Phrifysgol Caerdydd yn unig yn wynebu diffyg o £30 miliwn.
“Heb strategaeth a chynllun ariannu, bydd prifysgolion Cymru yn parhau i grebachu, yn cael gwared â staff, ac yn dod â chyrsiau i ben os nad yw'n broffidiol i'w cynnal,” dywedodd yr undeb mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r llywodraeth ym mis Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn ymateb: "Mae prifysgolion ledled y DU yn wynebu cyfnod heriol yn ariannol ac rydym yn disgwyl i'r holl sefydliadau gyd-weithio gyda staff a myfyrwyr i sicrhau bod pawb sydd wedi eu heffeithio yn derbyn cefnogaeth.
"Rydym wedi clustnodi £28.5 miliwn mewn cyllideb grant i brifysgolion yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf."