Freddie Flintoff yn canmol meddygon am eu triniaeth wedi damwain Top Gear

Llun: PA
Freddie Flintoff

Mae Andrew 'Freddie' Flintoff wedi canmol "cariad a thrugaredd" staff y Gwasanaeth Iechyd a wnaeth ofalu amdano ar ôl iddo gael ei anafu mewn damwain wrth ffilmio’r rhaglen Top Gear.

Roedd y cyn chwaraewr criced wedi ymweld â'r ysbyty lle gafodd triniaeth yn ddiweddar.

Dywedodd mai'r cyfnod hwnnw oedd "yr isaf i mi erioed deimlo".

Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaeth Flintoff ddioddef sawl anaf yn Aerodeome Dunsfold yn Surrey tra'n ffilmio pennod rhaglen Top Gear.

Fe wnaeth llawfeddyg ddisgrifio  anafiadau Flintoff fel rhai o'r mwyaf cymhleth iddo ei weld erioed.

Cafodd Flintoff ei gludo i Ysbyty St George yn Tooting wedi'r ddamwain.

"Dwi eisiau dweud diolch enfawr i'r staff i gyd yn Saint George," meddai Freddie Flintoff.

"Roeddwn i wedi cyrraedd yn teimlo mor isel ag erioed, ac angen y cymorth. Roedd y cariad a'r tosturi roedden nhw wedi dangos i mi yn anhygoel.

"Fyddai'n ddiolchgar iddynt am byth - maen nhw'n arwyr."

Image
Freddie Flintoff gyda'r llawfeddyg Jahrad Haq
Freddie Flintoff gyda'r llawfeddyg Jahrad Haq. (Llun: PA)

Wrth gofio Flintoff yn cyrraedd yr ysbyty, dywedodd y llawfeddyg Jahrad Haq: "Roeddwn i ar alwad y diwrnod hwnnw ac wedi derbyn galwad ffôn gan yr ymgynghorydd adran achosion brys.

"Mae sawl anaf yn cael eu trin gan feddygon sydd yn llai profiadol, felly ro'n i'n gwybod bod hwn yn un difrifol.

"O'r holl achosion trawma dwi wedi gweld mewn cyfnod o dros 20 mlynedd, roedd hwn ymysg y rhai mwyaf cymhleth."

Ychwanegodd Shamim Umarji, ymgynghorydd trawma a llawfeddyg ei fod yn "fraint" gweld cleifion yn dychwelyd ar ôl gwella.

"Pan rydych chi'n gweld nhw wedi gwella, chi'n cofio pa mor bwysig yw eich swydd," meddai.

"Roedd yn hyfryd i weld Freddie eto ac roedd ei ymweliad yn hwb mawr i'r staff.

"Cymerodd llawer o amser yn siarad gyda phawb ac roedd hynny'n golygu llawer."

Image
Freddie Flintoff

Yn ystod rhaglen ddogfen am y ddamwain, dywedodd Flintoff ei fod wedi defnyddio ei sgiliau ymateb yn sydyn o'i yrfa fel chwaraewr criced, i geisio lleihau effaith y ddamwain.

Dywedodd ei fod wedi cael ei "dynnu ar ei wyneb ar hyd y ffordd" am 50 metr, o dan y car.

Dywedodd Flintoff ei fod yn credu ei fod am farw yn y ddamwain.

Nid oedd wedi ei weld yn gyhoeddus am rai misoedd wedi'r ddamwain, ac yn gadael ei dŷ ar gyfer apwyntiadau meddygol yn unig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.