Lle'n union mae'r Eisteddfod yn Wrecsam eleni?
Pe bai chi'n teithio mewn car, ar drên neu ar fws, mae sawl ffordd o gyrraedd maes Eisteddfod Wrecsam eleni, gyda'r Brifwyl yn agor ei drysau i Eisteddfotwyr o ddydd Sadwrn ymlaen.
Ardal Is-y-coed, ar ochr ddwyreiniol y ddinas, yw lleoliad y brifwyl eleni.
Dyma ganllaw ar sut i gyrraedd y maes, a'r sawl opsiwn trafnidiaeth sydd ar gael i deithwyr.
Trenau
Gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol yw un o'r prif orsafoedd ar y daith o ogledd Cymru i'r de.
Fe fydd trenau’n cyrraedd ac yn gadael yn rheolaidd drwy gydol y dydd ac yn hwyr yn y nos yn ystod y brifwyl.
Mae Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast wedi trefnu gwasanaethau ychwanegol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan gynnwys wyth gwasanaeth ychwanegol ddydd Sadwrn a dydd Sul, a deuddeg gwasanaeth ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae modd i deithwyr ddod â'u ci ar y trên yn ogystal.
Bysiau
Os ydych chi'n bwriadu dod ar fws i'r brifwyl eleni, y gwasanaeth T3 fydd angen i chi ei ddal.
Bydd gwasanaeth TrawsCymru T3 yn cynnig gwasanaeth bob dwy awr o orsaf fysiau Wrecsam.
Mae'r gwasanaeth T3 yn teithio'n uniongyrchol i'r maes o Abermaw, Dolgellau, Bala, Corwen a Llangollen.
Bysiau gwennol rhwng y maes a’r ddinas
Fel yr arfer, fe fydd bysiau gwennol yn rhedeg bob dydd, gan dywys steddfotwyr rhwng y maes yn Is-y-coed a chanol y ddinas.
O 08:00 tan 23:00, bydd y gwasanaeth yn rhedeg yn rheolaidd rhwng yr orsaf drenau, yr orsaf fysiau yng nghanol y ddinas, a’r maes.
Mae'r rhain yn fysiau lefel-isel, sy'n addas i gadeiriau olwyn, ac fe allwch ddod â'ch ci ar y bws i'r Maes.
Fe fydd y bysiau yma yn cychwyn o safle bws gyferbyn â’r orsaf (lle mae ceir yn parcio ar hyn o bryd) ac yn galw yn Arosfan 5, Canolfan Fysiau Wrecsam, cyn dilyn llwybr presennol bws rhif 41 i’r stad ddiwydiannol, i Redwither Road a Bryn Lane.
Bydd y bysiau’n gweithredu yn yr un modd ar y ffordd yn ôl i’r ddinas o’r maes.
Teithio mewn car
Pe byddech yn dewis teithio mewn car i Wrecsam eleni, fe fydd arwyddion 'Eisteddfod' lliw melyn ar gael i chi ddilyn wrth i chi agosáu at y maes.
Cod post y Maes yw LL13 9UR, neu os yn defnyddio'r ap What3Words, y cyfeirnod yw movie.proudest.misfits.
Pwrpas yr arwyddion ydy hwyluso traffig a hynny wedi trafodaethau gyda Chyngor Wrecsam.
Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, y safle Hwyrnos a maes pebyll Maes B, ynghyd â’r meysydd parcio, i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod yn Is-y-coed, Wrecsam.
Fe fydd yr arwyddion yn annog pawb i gyrraedd y maes oddi ar gyffordd 6 yr A483 ger Gresffordd.
Bydd traffig o’r A55 yn dilyn yr arwyddion o oleuadau traffig cyffordd yr A483 a’r B5445 (Belgrave), ac yn cael ei arwain i’r dde i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483.
Bydd y ffyrdd canlynol yn cael ei arwain i'r gogledd i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483:
- Yr Wyddgrug ar yr A541 (cyffordd 5, A483)
- Ardal Rhuthun ar yr A525 (cyffordd 4, A483)
- Ardal Rhosllannerchrugog ar y B5605 (cyffordd 3, A483),
- Tre Ioan (Johnstown) ar y B5426,
- Ffordd Bangor (cyffordd 2, A483) ac ardal Llangollen / Dyffryn Ceiriog ar yr A5 (cyffordd 1, A483).
Bydd traffig o gyfeiriad Croesoswallt ar yr A5 (gan gynnwys traffig o dde Cymru), yn gadael yr A483 ar gyffordd 6 (Gresffordd).
Bydd traffig o ardal A525 Bangor-is-y-Coed yn dilyn arwyddion wrth agosáu at ochr ddeheuol y stad ddiwydiannol, ger goleuadau traffig Cross Lanes.
Bydd traffig yn cael ei gyfeirio tuag at Sesswick Way, ymlaen tuag at Bridge Road South, Bridge Road, troi i'r chwith i Coed Aben Road, Abenbury Way, troi i'r chwith wrth gylchfan JCB ac yna o amgylch y gylchfan nesaf i ymuno â'r ciw ar Industrial Estate Road.
Parcio
Mae'r Eisteddfod yn erfyn ar bobl i beidio parcio wrth ochr y ffordd ac i barcio yn y meysydd parcio dynodedig.
Fe fydd arwyddion clir a stiwardiaid yno i roi cyfarwyddiadau ar le i barcio.
Mae parcio ger y maes am ddim.
Mae'r Eisteddfod yn dweud y dylai ymwelwyr anabl gyda bathodyn glas ddilyn yr arwyddion i'r maes parcio anabl.
Tacsis trwyddedig
Mae'r Eisteddfod wedi cynnwys rhestr o gwmnïau tacsis trwyddedig gan Gyngor Wrecsam ar eu gwefan:
- Wrexham Prestige taxis - 01978 357777
- Apollo Taxis - 01978 262626
- Speedie Cars - 01978 262829
- Yellow Cars - 01978 286286
- Station Cars - 01978 363661
- Cresta Cabs - 01978 353500
- Diamond Cars - 01978 351234
- Wrexham Executive Travel & Minibus Ltd - 01978 504064
Fe fydd mannau gollwng ar gael ar gyfer bysiau a thacsis er mwyn codi a gollwng teithwyr yn agos at y fynedfa i’r Maes. Bydd arwyddion clir i’ch arwain yno, meddai'r Eisteddfod.