Cyhuddo dyn wedi achos o drywanu ym Mhontypridd
Mae dyn wedi ei gyhuddo o ymosod yn dilyn achos o drywanu ym Mhontypridd ddydd Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar Stryd yr Eglwys yn y dref, ar ôl i ddyn 49 oed gael ei anafu.
Mae Paul Belmont, 42 oed, o Rydyfelin, Pontypridd, wedi ei gyhuddo o ymosod ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Pontypridd yn ddiweddarach ddydd Iau.
Cafodd y dioddefwr ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau.