Sefyllfa cyn-aelod o gabinet Cyngor Conwy yn 'anghynaladwy' medd AS
Mae AS Aberconwy Janet Finch-Saunders wedi dweud fod sefyllfa cyn-aelod o gabinet Cyngor Conwy yn "anghynaladwy".
Daeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf fod cyn-arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Goronwy Edwards, yn aelod o blaid wleidyddol ac nad oedd wedi datgan hyn yn swyddogol.
Cyhoeddodd arweinydd presennol Cyngor Conwy, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, ddydd Gwener fod y Cynghorydd Edwards wedi ymddiswyddo o'i swydd fel aelod cabinet dros isadeiledd, trafnidiaeth a chyfleusterau.
Daw ei ymddiswyddiad wedi i'r Cynghorydd Edwards, sydd yn gynghorydd gyda Grŵp Annibynnol Cyntaf Conwy, fethu â datgan ei fod yn aelod o blaid arall yn ei gofrestr buddiannau.
Mae AS Aberconwy Janet Finch-Saunders wedi beirniadu'r Cynghorydd Edwards, gan dweud fod ei sefyllfa yn "anghynaladwy".
"Dwi'n anhapus iawn fod cynghorydd sydd wedi bod yma am gyfnod fel y mae ef, cyn-arweinydd y cyngor, cyn-aelod cabinet...mae o wedi bod o gwmpas ddigon hir i wybod beth ddylai ef fod yn ei wneud," meddai.
"Mae'n siomedig i wybod ei fod wedi dewis peidio â datgan y wybodaeth hanfodol yma i'r cyhoedd, oherwydd mae ganddyn nhw'r hawl i wybod hyn.
"Dwi bellach yn teimlo fod ei swydd yn anghynaladwy, nid yn unig fel aelod o'r cabinet, ond fel cynghorydd."
Ychwanegodd Ms Finch-Saunders: "Sut fedrwch chi fod yn aelod o grŵp annibynnol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn aelod o blaid wleidyddol arall?"
Mae'r Cynghorydd Edwards wedi cael cais am sylw.
Fe wrthododd Grŵp Annibynnol Cyntaf Conwy wneud sylw ar y mater.