Caernarfon: Arestio tri pherson ar amheuaeth o glwyfo dynes

Llun: Google
Stryd Llyn Caernarfon

Mae tri pherson wedi cael eu harestio mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ar ddynes 34 oed yng Nghaernarfon, Gwynedd.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Stryd Llyn yn y dref, toc ar ôl 10:30 fore Sul wedi adroddiadau bod dynes wedi ei hanafu.

Roedd y tri pherson yr oedd yr heddlu yn awyddus i'w holi, wedi gadael mewn fan.

Llwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i'r fan tra roedd hi'n teithio ar ffordd yr A5 yn ardal Bethesda.

Cafodd y rhai oedd yn y fan, dynes 29 oed, dyn 58 oed a dyn 29 oed eu harestio ar amheuaeth o glwyfo.

Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa.

Cafodd y ddynes sydd wedi cael niwed, driniaeth gan y gwasanaeth ambiwlans yn y fan a'r lle.

Dyw hi ddym yn ymddangos fod ei hanafiadau yn bygwth ei bywyd, meddai'r heddlu.

Dywedodd yr Arolygydd Andrew Davies: "Hoffwn sicrhau'r gymuned leol nad ydyn ni'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad yma, a bydd swyddogion yn parhau yn ardal Stryd Llyn er mwyn cynnal ymholiadau."

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â'r llu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 25000618279.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.