Damwain Air India: Torcalon mam wedi iddi dderbyn gweddillion anghywir

(Chwith i dde) Jamie Ray Greenlaw-Meek a Fiongal Greenlaw-Meek
(Chwith i dde) Jamie Ray Greenlaw-Meek a Fiongal Greenlaw-Meek

Gallai'r manylion yn yr erthygl hon beri gofid i rai  

Mae mam a gollodd ei mab yn namwain awyren Air India ger maes awyr Ahmedabad fis Mehefin yn dweud bod ei chalon wedi torri, ar ôl cael gwybod bod camgymeriad wrth adnabod ei weddillion.  

Cafodd 241 o bobl oedd yn yr awyren eu lladd pan darodd yr awyren yn erbyn coleg meddygol yn fuan wedi iddi esgyn. 

Roedd 169 yn deithwyr o India a 52 yn ddinasyddion Prydeinig, yn eu plith, Fiongal Greenlaw-Meek, 39 oed, a'i ŵr Jamie, 45 oed, a oedd yn dychwelyd i dde ddwyrain Lloegr ar ôl dathlu eu pen-blwydd priodas yn India. 

Mae mam Mr Greenlaw-Meek, Amanda Donaghey, wedi dweud wrth The Sunday Times iddi hedfan i India er mwyn ceisio darganfod gweddillion ei mab, gan ddarparu samplau DNA yn Ysbyty Ahmedabad er mwyn cynorthwyo gyda'r broses o adnabod y meirw. 

Ar ôl i'r broses honno gael ei chwblhau fis Mehefin, fe deithiodd hi o India i Loegr gydag arch ei mab.

Ond ar 5 Gorffennaf, wrth i deuluoedd Mr Greenlaw-Meek a'i ŵr Jamie baratoi i gladdu'r pâr priod gyda'i gilydd, cysylltodd yr heddlu â Ms Donaghey i ddweud fod profion a gafodd eu cynnal yn y Deyrnas Unedig yn dangos nad gweddillion Mr Greenlaw-Meek oedd yn yr arch. 

Torcalonnus 

“Dyden ni ddim yn gwybod pwy sydd yn yr arch,” meddai wrth The Sunday Times.

“Roedd gen i fy amheuon, ond roedd cael gwybod hynny yn dorcalonnus. 

“Mae'n warthus fod hyn wedi digwydd,” ychwanegodd.

“Rydym yn dymuno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ein cynorthwyo a gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod â Fiongal adref.”

Daeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf fod gweddillion sawl person yn arch dynes o Gaint a gafodd ei lladd yn y ddamwain awyren

Bu farw Shobhana Patel, 71 oed gyda'i gŵr Ashok, 74, wrth iddyn nhw ddychwelyd o daith grefyddol.

Dywedodd eu mab Miten wrth y Sunday Times Patel: “Oherwydd rhesymau crefyddol, rydym ni angen sicrhau mai fy mam yw fy mam

“Mae bod 100% sicr yn bwysig i ni.”

Cafodd cyflenwad tanwydd yr awyren Air India ei ddiffodd ychydig eiliadau cyn i'r ddamwain ddigwydd yn ôl casgliadau cynnar i’r drychineb.

Mae cofnod o leisiau'r peilotiaid yn awgrymu bod dryswch rhwng y ddau, gydag un yn gofyn pam gafodd y tanwydd ei ddiffodd, a'r llall yn gwadu gwneud hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.